dwylaw wrth eu clustiau. Yrwan am y secret sydd wedi bod yn y dyddiadur er's blwyddyn, mwy neu lai (dim dyddiadur deuddeng mlynedd y pryd hyny, buasai hyny yn gabledd). "I bregethu bore Sul nesa' am ddeg Robet Tomos, Llidiarde; ysgol am ddau, a Robet Tomos am chwech." Dim "parch" na na "mistar; fyddai neb yn cael "mistar" gan Jacob Jones ond Mr. Edwards a Mr. Parry. Arferiad Jacob Jones fyddai cyhoeddi ar ol i'r pregethwr ddarfod pregethu a gweddio; a phan roddai y pregethwr benill allan ar y diwedd, dechreuai y bobl yn enwedig pobl Cefndwygraig a Phantglas—gychwyn allan yn ddiseremoni, er mawr ofid i'r pencantwr ac aflonyddwch i'r rhai fyddai yn dewis aros i ganu. Traethodd Griffith Jones lawer ar hyn, a thraethwr doniol oedd. Ceisiodd ddysgu manners i bobl y wlad—un mannerly oedd ef a thwt gyda pob peth. Siaradodd Dr. Edwards a Dr. Parry hefyd lawer yn yr un cyfeiriad; ond nid oedd dim yn tycio—myn'd allan wnelai y bobl ar ol y cyhoeddi. Ond ryw nos Sabboth yr oedd Dr. Edwards yn pregethu, a daeth drychfeddwl i feddwl awdwr "Athrawiaeth yr Iawn." Ar ol gweddio ar ddiwedd yr oedfa, dywedodd: "Yr wyf am roddi penill allan i ganu yn awr—hen benill anwyl y byddai eich tadau chwi yn myn'd i orfoleddu wrth ei ganu. Gadewch i ni ei gydganu, a chydweddio wrth ei ganu; wedi hyny eisteddwch i lawr yn ddistaw tra y bydd y brawd Jacob Jones yn cyhoeddi." Wyddoch chwi beth, aeth dim un gopa walltog allan. Eisteddodd pawb i lawr ar ol canu tra y bu Jacob Jones yn dweyd" pwy sy Sul nesa." Aeth y peth allan trwy holl Benllyn ac Edeyrnion, a chymerodd yr holl gynulleidfaoedd esiampl oddiwrth bobl y Bala yn hyn o beth, a dysgodd y bobl wylied ar eu traed wrth fyn'd i dŷ Dduw. Rai blynyddoedd ar ol hyn digwyddais deithio gyda Dr. Edwards rhwng Rhiwabon a Chaerlleon, a gofynais iddo a oedd yn cofio yr amgylchiad. "Ydwyf yn dda," a sylwai yn chwareus, a than chwerthin fel y medrai ef chwerthin,
Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/54
Gwirwyd y dudalen hon