cyntaf ydwyf fi yn gofio oedd Robert Michael Roberts, mab i Michael Roberts, Pwllheli—gŵr hynod o ffyddlon yn y moddion cyhoeddus, ac athraw cyson yn yr Ysgol Sul. Er ei bod wedi myn'd yn mhell arno cyn d'od yn aelod eglwysig, yr oedd yn esiampl i lawer o aelodau mewn moesoldeb. Ei gyd—gasglydd ar lawr y capel oedd David Evans, y postfeistr, gŵr y bydd genyf ychwaneg i ddweyd am dano mewn cysylltiad â'r "Seiat Bach." Cymerid un ochr o'r gallery gan Robert Roberts, dilledydd, hen wr cloff o'i glun, ond un uniawn yn ei ysbryd crefyddol. Gofelid am yr ochr arall gan Evan Owen, argraffydd,—wedi hyny llyfrgellydd y coleg,—gwr bychan o gorpholaeth, ond mawr ei sel a'i ffyddlondeb gyda phethau allanol gwaith yr Arglwydd. Yr oedd ef yn un o brentisiaid cyntat Robert Saunderson, argraphydd Geiriadur a Hyfforddwr Charles. Dyna y pedwar cyntaf ydwyf yn eu cofio yn gwneyd y gwaith pwysig. Yr oedd yn "bwysig," fe rheol, am y byddai mwy o geiniogau cochion chwechau gwynion yn cael eu bwrw i'r dollfa. Ond byddai un swllt gwyn ddwywaith yn y flwyddyn i'w cael yn mhlith y pres—sef amser y sesiwn (assizes), a Morgan Llwyd fyddai yn rhoddi y darnau gwynion. Cynhelid yr Ysgol Sabbothol i'r rhai mewn oed yn y capel, ac i'r plant yn yr ystafell o dan yr hen goleg, lle y cynhelid hefyd yr ysgol ddyddiol gan Evan Peters. Ysgol lewyrchus oedd Ysgol Sabbothol y Bala. Nid ydwyf yn cofio a newidid yr arolygwr yn flynyddol—mae genyf ryw led adgof mai Griffith Jones a fu yn dal y swydd am flynyddau. Byddai yr holi ar y diwedd yn sefydliad a berchid. Adroddid hefyd y Sul cyntaf bob mis y Deg Gorchymyn—hen arferiad rhagorol, gobeithio nad ydyw wedi darfod o'r tir. Arweinydd yr ateb a'r adrodd oedd Edward Llwyd coedwigwr ar stâd y Rhiwlas, ac wedi hyny masnachydd glo. Yr oedd gan Edward Llwyd lais fel udgorn, a llanwodd y swydd gyda medrusrwydd a blas am flynyddoedd. Arferai yr hen Gristion gadw y
Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/56
Gwirwyd y dudalen hon