Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/57

Gwirwyd y dudalen hon

ddyledswydd deuluaidd nos a boreu, yr un mor danbaid a chyda'r un hwyl a phan y cymerai ran yn y cyfarfod gweddi yn y capel. Codai ei lais nes y clywid ef bellder o ffordd; mynych y gwelais dyrfa o bobl yr heel wedi ymgasglu yn nghyd i glywed yr hen frawd. Nid oedd yr hen archesgob, fel y byddem ni y plant yn arfer ei alw, am "oleu canwyll a'i dodi dan lestr,' ac fel Daniel yn Babilon, nid oedd arno ofn na chywilydd i neb ei glywed yn gweddio ar ei Dduw.

Nis gallaf ddarfod gydag Ysgol Sul y Bala, heb son gair am un o'm hen athrawon ffyddlawn, Robert Jones y go', ewyrth y Parch. E. Penllyn Jones, M.A., Aberystwyth. Hen frawd doniol oedd Robert Jones,— hen Galfin o'r Calfiniaid; chawsai yr un Armin fyn'd i fewn i'r nefoedd byth pe Robert fuasai yn cadw y drws. Ond fe ddichon fod yr hen frawd anwyl wedi newid tipyn cyn croesi yr afon. Yr oedd yn athraw llafurus a dygyn. Ei drefn oedd cael gan bob un o'r dosbarth ofyn cwestiwn ar bob adnod ddeuai gerbron. Byddai yn galed iawn yn aml ar yr hwn a ddigwyddai fod yn mhen pellaf y set, a phawb wedi cael "cnoc" ar yr adnod. Un tro, yr oedd pawb wedi gofyn cwestiwn ond John a'r adnod oedd, "Ac yn y man y canodd y ceiliog." "Rwan, John, dy dyrn di ydi hi," meddai'r athraw, "oes gen ti gwestiwn?" Cwestiwn yn wir," meddai John, "ond ydi yr adnod wedi cael ei blingo yn fyw—yden nhw ddim wedi gadael yr un bluen ar yr hen geiliog chwaith." "Yma ti, John, chyma i ddim lol gen't ti, tyr'd a chwestiwn y mynud yma, ne dd'oi di byth i'r class yma eto." Wel," meddai John druan, "os rhaid i chi gael cwestiwn, Robert Jones—beth ydi ystyr y gair ac yn nechreu y frawddeg?" Wrth lwc fe ganodd y gloch y funud yna, a thorwyd yr ysgol. Y mae'r Bala wedi bod yn gartref am dymhor fyfyrwyr Cymru wrth y cannoedd, yn amser haddysg. Y mae genyf adgofion melus am rai ohonynt sydd wedi gwneyd gwaith mawr, ac am rai sydd eisoes.