wedi huno. Yr oedd ymysg trigolion y Bala, hefyd, laweroedd o gymeriadau dyddorol iawn,—rhai duwiol, rhai hynod, rhai digrif. Nid ydyw hyn i ryfeddu ato, oherwydd cafodd y Bala freintiau mawr, a bu dan ddylanwadau rhyfedd.
III. MAER Y BALA.
Y mae cyfnewidiadau a gwelliantau mawr wedi cymeryd lle yn hen dref y Bala y deugain mlynedd. diweddaf. Byddai ffosydd a thomenydd aflan i'w gweled ar hyd ochrau'r heolydd, ond erbyn hyn y mae y Bwrdd Lleol wedi dyfod â dwfr o'r Arenig fel afon a'i ffrydiau i lanhau yr hen ddinas. Yn amser Siarl y cyntaf, os nad wyf yn methu, rhoddwyd siarter i'r Bala, yn rhoddi hawl i ethol Maer a Chorphoraeth; ond bu ar goll am lawer o flynyddoedd. Daeth Dafydd Williams, Castell Deudraeth, o hyd iddi wrth chwilio am ryw hen weithredoedd yn Llundain, a pherswadiodd bobl y Bala i gymeryd meddiant o'u hawl. Tua'r flwyddyn 1858, awd drwy y seremoni o ethol maer y Bala, a'r maer oedd George Lloyd, Plas yn dre, mab Simon Llwyd, awdwr yr Amseryddiaeth. Yr oedd hyn yn y flwyddyn ar ol yr etholiad fythgofiadwy pan y daeth Dafydd Williams allan yn erbyn Wynne o Beniarth. Yr oedd yn naturiol felly yr edrychid ar rywbeth a wnai Williams gyda chryn amheuaeth gan wŷr mawr y fro. Yr oedd yr hen foneddwr Price y Rhiwlas, taid i'r gwr sydd yn perchen y stâd yn awr, yn greulawn yn erbyn cael maer i'r Bala, ac yr oedd yn benderfynol o wrthwynebu y symudiad. Ond gwr penderfynol hefyd oedd yswain y Castell Deudraeth ; ac etholwyd maer a chorphoraeth yn y Bala, a dathlwyd yr amgylchiad gyda chryn rwysg. Yn lled anesmwyth yr oedd y faeroliaeth yn gorphwys ar ysgwyddau gwr Plas yn dre. Yr oedd yr "Hen Breis". wedi cael allan nad oedd etholiad y maer yn rheolaidd a chyfreithlawn, felly mewn enw yn unig y bu yn dal y