Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/59

Gwirwyd y dudalen hon

swydd am flwyddyn, a gwrthododd yn bendant gymeryd ei ail-ethol. Ond os oedd ar George Lloyd ofn Price y Rhiwlas, 'doedd ar Simon Jones ddim, ac efe a aeth drwy y seremoni yr ail flwyddyn, ond ni weithredodd yn swyddogol erioed am a glywais i. Er na weithredodd



y maer a'r gorphoraeth, fe weithredodd y Bwrdd Lleol yn gampus, a'r un rhai oedd yn cyfansoddi y ddau fwrdd. Rhoddodd yr hen adeiladau gwael to gwellt le i adeiladau da, ac erbyn hyn y mae tref y Bala mor lân a hardd ag unrhyw dref yn Nghymru.

IV. PRIF ADEILADAU.

Prif adeiladau y Bala ydynt y Capel Mawr, capel yr Annibynwyr, capel y Bedyddwyr, yr Eglwys, neuadd y dref, y Victoria Hall, Banc Gogledd a Deheudir Cymru, a'r Coleg, yn nghyda thair ysgol,—yr Ysgol Ramadegol, Ysgol y Bwrdd, ac Ysgol Eglwys Loegr. Mae capel y Bedyddwyr yn mhen uchaf y dref, a'r agosaf i'r llyn, y mae hyny yn ddigon naturiol. Hen gapel y Wesleyaid ydyw. Mae Wesleyaeth wedi marw yn y Bala er's llawer dydd. (Gwel "Y Wesle Ola.")

Saif capel newydd yr Annibynwyr ar gyfer y llanerch lle safai yr hen gapel, a choleg Michael Jones y cyntaf.