Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/60

Gwirwyd y dudalen hon

Bu y capel hwn o dan ofal y gwr anwyl Ioan Pedr, ac wedi hyny bu Ap Vychan yn bugeilio ei braidd.

Wrth gwrs, capel y Methodistiaid ydyw teml y Bala, fel y gweddai i brifddinas y Corph,—capel gwych a godidog, a phinacl iddo,―rhaid cael pinacl ar deml wrth gwrs. Ryw ddwy flynedd ar ol adeiladu y capel gwelwyd fod y pinacl yn pengamu. Dywedai un hen flaenor ffraeth o Gefnddwysarn fod yn llawn bryd iddo gamu ei ben o gywilydd am geisio efelychu dull yr Eglwys Wladol o adeiladu. Sylwai wag yn perthyn i Eglwys Loegr fod y pengamu yn ddigon awgrymiadol o Fethodist. Pa fodd bynag, pan osodwyd cofgolofn Thomas Charles o flaen y capel, fe gododd y pinacl ei ben, fel pe yn dyweyd,—"'Does arna i ddim cywilydd o fod yn rhan o adeilad yn perthyn i'r enwad gafodd y gwr mawr acw yn un o'i sylfaenwyr."

V. YSGOLION Y BALA.

Bu y Bala am lawer o flynyddoedd heb ryw lawer o drefn ar ei hysgolion dyddiol. Rhoddai Michael Jones addysg i ryw ychydig o blant yn un o ystafelloedd ei goleg. Ond pan y bu ef farw cauwyd yr ysgol. Cedwid ysgol gan y Parch. John Williams, gwr o Ben Llwyn, cartref Dr. Lewis Edwards. Ar ol i Mr. Williams symud i Landrillo cariwyd hi yn mlaen gan y Parch. Evan Peters hyd oni agorwyd yr Ysgol Frytanaidd gan Mr. John Price—yn awr o Goleg Normalaidd Bangor. Ysgol nodedig oedd ysgol John Williams. Cedwid hi mewn ystafell o dan yr hen goleg, a llawer gwaith mewn blynyddoedd wed'yn y buom yn synu sut y gallodd y myfyrwyr uwchben fyn'd y'mlaen gyda'u gwers yn sŵn a dwndwr y plant oedd odditanynt. Un o'r pethau cyntaf i wneyd yn y boreu, ar ol cadw dyledswydd ysgolyddol, oedd galw enwau y bechgyn oedd i fod yn monitors am y diwrnod,—nid oedd pupil teachers y pryd hyny. Yr wyf yn cofio yn dda y boreu cyntaf yr aethum i'r ysgol. Rhoddwyd fi i eistedd ar fainc mewn cornel dywyll gyda phedwar o fabanod ereill; waeth i