Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/61

Gwirwyd y dudalen hon

mi heb eu henwi, ond y mae tri ohonynt yn fyw heddyw, ac yn weinidogion poblogaidd yn Nghymru. Ein monitor ni am y diwrnod oedd bachgen bychan pengoch, a'i lygad fel fflam dân, nid oedd ond ychydig o flynyddau yn hyn na'r rhai oedd yn eistedd ar y fainc fach, ond gwyddai yn iawn sut i ddysgu yr "ABC" i ni. Ar yr un fainc bach y dysgodd yntau hefyd yr "A B C." Thomas Charles Edwards oedd ei enw, ac efe heddyw ydyw Prifathraw Coleg Duwinyddol y Bala. Iechyd a hir oes iddo i lanw y swydd bwysig. Cedwid ysgol i blant hefyd yn Nhy tan Domen, yr ochr ddwyreinioli Domen y Bala, mewn hen adeilad isel. Yr oedd yr ysgol hon o dan nawdd Coleg yr Iesu, Rhydychain, a rhoddid ysgol a dillad yn rhad i ddeg ar hugain o blant. Yr athraw ydoedd un Mr. Morris, dyn bychan o gorpholaeth, ond gyda phen mawr a breichiau hirion; a gwarchod pawb fel y medrai weinyddu disgyblaeth. Bu llawer bachgen yn methu eistedd yn esmwyth am ddiwrnodau ar ol mynd o dan yr oruchwyliaeth. Y mae Mr. Morris yn ei fedd er's llawer dydd, ac y mae yr hen adeilad wedi ei dynu i lawr er's llawer o flynyddoedd, i wneyd lle i adeilad gwell, ac y mae yr ysgol o dan lywyddiaeth athraw dysgedig. Cynhelid hefyd ysgol yn Llanfor gan un Joseph Jones, athraw da, a throdd allan lawer iawn o fechgyn galluog, rhai ohonynt yn llanw swyddi pwysig yn Nghymru.

VI. Y COLEGAU.

Wrth gwrs, prif enwogrwydd y Bala oedd ei cholegau. Yr wyf yn cofio yr hybarch Fichael Jones, tad Michael Jones presenol. Bu llaweroedd o dan ei addysg, o'r Gogledd a'r De. Yr oeddwn yn adnabod rhai o'r myfyrwyr yn dda, yn enwedig Rhys Gwesyn Jones, David Lloyd Jones (wedi hyny o Batagonia), a Dewi Mon, Prifathraw Coleg Aberhonddu. Hen athraw cywir oedd Michael Jones,—dyn talgryf a chorphorol, golwg difrifol a braidd yn ffyrnig arno, ond yn Gristion disglaer, yn foneddwr bob modfedd, a chalon gynes yn