ei fynwes. Bu farw wrth ei bost yn y Bala, ac fe'i hebryngwyd i'w feddrod yn Llanuwchllyn gan un o'r torfeydd mwyaf a welwyd erioed yn y Bala.
Yr oedd Coleg y Methodistiaid dan yr unto â'r capel, a ffenestri yn y mur rhwng y ddau adeilad. Ambell dro, pan y byddai y capel yn orlawn, elai rhai o'r gwrandawyr i rai o ystafelloedd y coleg, ac yr oedd yn hawdd clywed y pregethwr. Un noson, Cyfarfod Misol neu Sasiwn, yr oeddwn yn y coleg yn gwrandaw ar y ddau frawd Henry a William Rees yn pregethu. Henry a bregethodd gyntaf, a phan oedd yn gofyn ar ddiwedd ei bregeth am "arddeliad i'w anwyl frawd," yr oedd yn anhawdd peidio gwenu. Nid ydyw fy nghof yn myn'd a fi yn mhellach na'r flwyddyn 1848, ac nid oes genyf gof am lawer o'r myfyrwyr y pryd hyny. Yr wyf yn cofio pedwar yn dda,—sef Robert Roberts, Prion; Ioan Llewelyn Evans, John Lewis, Birmingham; a John Hughes, sir Fon. Y mae y pedwar wedi myned i feddianu eu teyrnas. Yn fuan wedi hyn daeth i'r coleg Dr. Griffith Parry, Dr. Hugh Jones (nid yn Ddoctoriaid y pryd hyny, wrth gwrs), Daniel Rowlands, John Pritchard, a David Roberts, sir Fon. Yr oedd amryw o leygwyr hefyd yn y coleg y pryd hyn, sef John Price, Bangor; y diweddar R. J. Davies, Cwrt Mawr; a John Mathews, Aberystwyth; yr hwn sydd er's llawer o flynyddoedd yn arolygydd y National Provincial Bank yn Amlwch, y ddau yn fechgyn ieuainc iawn, a bu'm yn cyd—chwareu â hwynt ar lanau Llyn Tegid.
Yn ystod y deng mlynedd dilynol, fe ddaeth llaweroedd o fyfyrwyr i'r ac o'r Bala. Blwyddyn nodedig yn hanes myfyrwyry Bala oedd y flwyddyn 1859, blwyddyn y Diwygiad Crefyddol, pan y trwythwyd myfyrwyr y ddau goleg, ac y mae ol y trwythiad i'w weled ar aml un ohonynt hyd y dydd heddyw.
Y mae llawer o wahaniaeth yn myd myfyrwyr y dyddiau hyn i'r hyn ydoedd bymtheng mlynedd ar hugain yn ol. Y mae dyfodiad y ffordd haiarn i Green y Bala, a sŵn y march tân yn chwibanu ar lan Llyn