Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/63

Gwirwyd y dudalen hon

Tegid, wedi rhoddi tro ar fyd y students. Gallant yn awr fyn'd haner can' milldir, mwy neu lai, i'w taith Sabbothol heb wneyd cam â'u hastudiaeth. Os byddai eisieu myn'd dros y Garneddwen i Ddolgellau, dros Figneint i Ffestiniog, dros y Berwyn i Faldwyn, neu Fwlch y Groes i Fawddwy, yr oedd rhaid cerdded y daith neu farchogaeth ar un o hunters y Bala. Fe ganodd Glan Alun yn ddoniol a phrydferth ar ddull y myfyrwyr yn myned i'w taith, ac nis gallaf wneyd yn well na rhoddi'r gân yn y fan hon,—

Ar ol llafurio yn ddifreg
Drwy'r wythnos am wybodaeth deg,
Mor hyfryd ar y Sadwrn fydd
I'r bechgyn gael eu traed yn rhydd;
A'u gwel'd yn cychwyn yma a thraw
Gan ymwasgaru ar bob llaw,
A neges fawr pob un fydd dwyn
Hen eiriau yr Efengyl fwyn
I glyw trigolion yr holl wlad,
Gan lwyr ddymuno eu lleshad;
Bydd weithiau ddau neu dri, neu fwy,
A cherbyd clyd i'w cario hwy ;
Un arall geir yn d'od yn mlaen
Gan farchog ar gefn ceffyl plaen,
Ac ambell waith fe gwympa'r march
Gan lwyr ddarostwng gŵr o barch;
(Mae'n anhawdd i'r myfyrwyr mwyn
Astudio pregeth a cal ffrwyn),
Un arall mwy diogel ddaw
A ffon brofedig yn ei law,
A'i ddull yn apostolaidd iawn
Yn troedio'n gynar y prydnawn
Mor wych eu gweled ar ddydd Llun
A bochau cochion gan bob un
Yn d'od yn ol yn llawn o rym
Am wythnos eto o lafur llym.

Busnes pwysig yn y Bala y blynyddoedd hyny oedd busnes y llogi ceffylau. Yr oedd un Rice Edwards a'i