Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/64

Gwirwyd y dudalen hon

frawd yn cadw tua dwsin o feirch at wasanaeth y myfyrwyr, ac fe gludodd ceffylau Rice fwy o "genhadon hedd" ar hyd a lled y wlad nag a wnaeth ceffylau yr un dyn arall yn Nghymru. Yr oedd gan Rice Edwards un ceffyl,—neu gaseg, nid wyf yn cofio pa un,—oedd yn hoff farch gan y students, a'i henw "Tymplen," Tymplen Rice. Fe gariodd Tymplen druan lawer o Efengyl ar hyd siroedd Meirion, Dinbych, a Threfaldwyn. Fe_gariodd lawer ar yr hybarch Ddoctor Edwards a Doctor Parry. Hen geffyl saff ac un i ymddiried iddo oedd, fydde fo byth yn jibio, nac yn myn'd ar ei liniau,—y marchogwr fyddai yn gwneyd hyny; fydde fo chwaith byth yn rhedeg i ffwrdd, byddai y llwyth yn rhy drwm bob amser, nid o gnawd ond o ddrychfeddyliau y pregethwr. Ond bu farw Tymplen, a hi gasglwyd at ei thadau. Cefais lythyr ar y pryd oddiwrth un o'r myfyrwyr yn gofyn i mi am bwt o englyn fel beddargraph i Tymplen; ond gan nad wyf yn un o olynwyr Dafydd ab Edmwnt, nac yn deall y mesurau caethion, gofynais i fy nghyfaill Gwyneddon wneyd y gymwynas. A dyma nhw,

Gorwedd mae'n awr mewn gweryd,—hen geffyl
Gwffiodd am ei fywyd;
O swn y boen sy'n y byd,"—o grafangau
Du angau mae wedi diengyd.

Tymplen Reis, un neis iawn oedd,—i deithiwr
Deithio trwy'r cymoedd;
Mewn bri bu'n gweini ar g'oedd
I sereiff pena'n siroedd.

Fel y dywed Glan Alun yn ei gân byddai pedwar o'r myfyrwyr ambell brydnawn Sadwrn yn myned i'r un cyfeiriad ac yn uno am gerbyd. Digwyddodd, un tro, amgylchiad gwerth ei gofnodi. Fe gofia yr actors yn y ddrama y tro yn eithaf da. Y mae y pedwar eto yn fyw; mae dau ohonynt wedi myned trwy gadair y Sasiwn yn y Gogledd, mae un arall yn lled agos ati, ac