Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/67

Gwirwyd y dudalen hon

gywilydd dweyd, yn gorfod byw yn lled fain. Prin yr oedd y gydnabyddiaeth yn ddigon i'w cadw. O na, nid mynachod gwyneb—drist oedd hen fyfyrwyr y Bala; yr oedd y mwyafrif ohonynt yn jolly fellows, rhai a fedrent fwynhau eu hunain a bod "yn llawen yn wastadol." Gallent ymbleseru mewn game of draughts neu dominoes, ond ni welais erioed gardiau ar y bwrdd, nac ychwaith yr un ddimeu goch yn cael ei henill na'i cholli. Ychydig a welais o'r bêl droed, ond byddai coetio gyda cherig neu hen bedolau yn cael ei arfer ambell dro.

Gwelais droion fyfyrwyr newydd yn d'od i'r coleg yn lled debyg i Verdant Green, dipyn yn ryw ddiniwed. Byddai raid i'r brawd hwnw fyned trwy dipyn o oruchwyliaeth y plagio. Yr oedd yn rhaid cael allan o ba fetal yr oedd y brawd newydd wedi ei wneyd. Ambell dro byddai cŵyn yn cael ei ddwyn yn erbyn myfyriwr newydd, ei fod yn ddiarwybod wedi troseddu, trwy dori un o ddeddfau anysgrifenedig y coleg. Byddai yn rhaid cael prawf arno yn ebrwydd. Cymerai y barnwr ei le ar y fainc, a chadach poced gwyn am ei ben fel wig. Yr oedd yno fargyfreithwyr ffraeth a siaradus, a deuddeg o reithwyr, tystion lawer, a chwnstabl i gadw heddwch, a'r carcharor druan yn ofni ac yn crynu. Byddai У rheithwyr bob amser yn dyfod a rheithfarn "Euog,' a dedfryd y barnwr yn fynych oedd i'r carcharor fyned i'r Ystadros am bymthegnos i bori mwsogl.

Digwyddodd, un tymor, dd'od i'r coleg fachgen yn meddu dawn neillduol gyda'i bwyntyl, ac yn fynych iawn gelwid am ei wasanaeth i dynu darluniau ar bared gwyngalchog un o oruwch—ystafelloedd y coleg. Dyma lle yr oedd oriel y darluniau. Pan y byddai un o'r bechgyn wedi troseddu, byddai yn rhaid cael ei lun yn yr oriel. Yr oedd un o'r bechgyn rhyw dro wedi cael basgedaid o wyau oddiwrth ei hen fam yn sir——— Cafwyd allan ei fod wedi bwyta chwech o'r wyau i'w frecwast y boreu canlynol. Cyn nos yr oedd llun y brawd yn yr oriel, yn eistedd wrth fwrdd, a chwech o wyau yn ei ymyl. Yr oedd y darlun mor fyw ohono fel nad oedd