Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/68

Gwirwyd y dudalen hon

yn bosibl peidio ei adnabod. Yna cafwyd prawf arno ar y cyhuddiad o fwyta i ormodedd. Nid wyf yn gwybod a yrwyd ef i'r Ystadros ai peidio. Yr wyf yn meddwl ei fod wedi cael dyfod yn rhydd trwy iddo lwgrwobrwyo y rheithwyr trwy roddi wy bob un iddynt. Un nos Sabboth, pregethwyd yn hen gapel y Bala gan un o'r myfyrwyr ieuainc—un sydd erbyn heddyw yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd ein gwlad. Wrth sylwi ar ddyledswyddau dywedodd,—" Y mae yn ddyledswydd arnom ni rieni plant." Cyn haner dydd y diwrnod canlynol, yr oedd llun y bachgen bregethwr yn yr oriel yn eistedd wrth y tân a phlentyn ar bob glin, a thri neu bedwar o rai ereill oddiamgylch ei gader. Erbyn heddyw y mae ganddo berffaith hawl i ddweyd "ni."[1]

Dyn poblogaidd yn mhlith y frawdoliaeth oedd dynwaredwr da. Un o'r rhai goreu felly ydoedd y diweddar bregethwr hyawdl a galluog John Ogwen Jones. Gelwid am ei wasanaeth yn aml iawn yn nhai ei frodyr colegawl, ac hefyd mewn ambell dy capel, ond nid erioed yn gyhoeddus, byddai ganddo ormod o barch i'r rhai a ddynwaredai. Gallai ddynwared Henry Rees, John Phillips, John Jones, Edward Morgan, a llawer ereill. Ni chlywais ond dau fedrai ddynwared Dr. Edwards; sef y diweddar Owen Jones, o'r Plasgwyn, ger Pwllheli, a "Rhys Lewis" yr ail, gweinidog presenol Salem, ger Caernarfon. Dynwaredwr da dros ben hefyd, tra yn y coleg, oedd Thomas Roberts, o'r Ysbyty, yn awr yn America. Daeth i'r coleg yn ieuanc iawn a chanlynodd lawer ar Dafydd Rolant," Caplan Dafydd Rolant" y byddem yn ei alw. Ei brif garictors ef oedd Cadwaladr Owen, Dr. Parry, Richard Humphreys, John Hughes, Gwyddelwern; Dr. John Hughes, Caernarfon; ac yn neillduol Dafydd Rolant.

VII. Y SASIWN.

Ni fyddai adgofion am y Bala yn gyflawn heb ddweyd rhyw ychydig am yr hen sefydliad bendigedig.

  1. Y mae y cyfaill wedi myn'd erbyn hyn i fewn i lawenydd ei Arglwydd.