Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/70

Gwirwyd y dudalen hon

blaenoriaid, ac nid yn anaml y byddai chwech mewn un ystafell. Wrth gwrs, ar gefnau eu meirch y byddai y pregethwyr yn dyfod i'r sasiwn, ac ambell un lled gefnog a boliog yn ei gig. Cyfnod y peint o gwrw cyn myn'd i'r pwlpud oedd hwnw. Byddai pregethwyr y De a'r Gogledd yn gweithio eu passage, fel y dywed y llongwyr byddent yn pregethu dair gwaith bob dydd ar y ffordd. C'ai felly y pregethwr a'i farch fwyd at lojin ar y ffordd, heblaw ambell swllt yn y fargen. Fel y dywedais, yr oedd y sasiwn wedi myn'd yn dreth drom ar ein hen dref, ac yn faich rhy anhawdd ei ddwyn; felly penderfynasant un flwyddyn ei gwrthod. Yr oedd llawer o'r hen dadau yn ofni y deuai rhyw farn ar ein hen dref am wrthod y sasiwn, ac y byddai fel Sodom a Gomorrah yn diflanu o'r tir. Ond y mae y dref "bechadurus" eto heb ei difodi, ac y mae yn fwy llwyddianus nag erioed, ac yn cymeryd y sasiwn yn ei thro." Y mae y rhan fwyaf o'r hen Green erbyn hyn wedi cael ei chymeryd i fyny gan y rheilfforddond y mae digon o le i gynal sasiwn arno eto.

VIII. DIWYGIAD CREFYDDOL 1858.

Dyddiau rhyfedd oedd dyddiau y Diwygiad Mawr, Y mae y darllenydd yn cofio mai yn yr Amerig y torodd allan gyntaf, ac yn Ngheredigion y cyffyrddodd gyntaf yn Nghymru. Yr oedd y newydd am y cynhyrfiad wedi cyrhaedd y Bala, a disgwylid yn bryderus am "ymweliad." Yr oedd y Coleg wedi tori, ac fel y byddai bob amser yn ystod yr holidays, pan y byddai yr athrawon a'r myfyrwyr i ffwrdd, yr oedd pethau yn hynod o flat tua'r capel. Yr oedd tri neu bedwar o fechgyn o sir Aberteifi yn y Coleg,—tri ohonynt oedd William James, Lewis Ellis, a William Morgan. Pan ddaeth amser dechreu y Coleg, daethant hwythau yn ol yn llawn tân y Diwygiad. Yn y cyfarfod gweddi nos Lun adroddasant hanes y cyffroad mawr yn Ngogledd Aberteifi. Creodd hyny deimlad angerddol, cynheuwyd y tân, a bu agos iddi fyn'd yn wenfflam y noson