hono. Cariwyd y cyfarfod yn mlaen am dros ddwy awr, a chyn y diwedd yr oedd llawr y capel yn orlawn. Cynhaliwyd cyfarfodydd gweddi bob nos, cynhaliai y merched gyfarfodydd, a'r un modd y plant. Yr oedd masnach fel wedi ei barlysu,—y wlad oddiamgylch yn dylifo i'r dref, nid i fasnachu, ond i weddio. Yr oedd myfyrwyr y colegau yn methu yn lân a myn'd yn mlaen. gyda'u gwersi. Aeth llawer ohonynt i'r capelau bychain oddiamgylch, fel llwynogod Samson, gyda'u ffaglau, i danio y wlad. Deuai y bobl at grefydd yn y Bala wrth yr ugeiniau—fel ag y bu rhaid rhoddi i fyny "cornel fach y seiat," a phrin yr oedd lle ar lawr y Capel Mawr. Yr oedd yr holl dref wedi ei chynhyrfu drwyddi,—y meddwon wedi sobri, y cablwyr wedi troi i folianu Duw, ac am yr erlidwyr gellid dweyd am danynt fel am Saul o Tarsus,—"Wele y mae efe yn gweddio." Penderfynwyd un noson gynal dyledswydd deuluaidd yn mhob ty yn y dref. Rhanwyd y dref yn fân ddosbarthiadau, a phenodwyd dau neu dri i fyn'd drwy bob dosbarth gyda'u gilydd rhwng chwech a naw o'r gloch. Cynhaliwyd dyledswydd yn mhob ty oddigerth rhyw dri, sef y prif westy, ty twrne, a thy Eglwyswr selog. Yr oedd y pryd hyny un ar ddeg o dafarndai yn y Bala, a gweddiwyd yn mhob un ohonynt ond yr un a enwyd. Syrthiodd i'm rhan i ymweled â dau o'r tafarndai yn nghwmni dau fyfyriwr, un yn Fethodist a'r llall yn Annibynwr. Rhyfedd oedd gwel'd y tafarndai yn weigion, a gwraig y dafarn yn estyn y Beibl mawr ar y bwrdd. Yr oedd un o'r cyfeillion yn hwyliog dros ben, wedi cael gafael yn "rhaffau yr addewidion," ac yn tynu y Nefoedd ar ei ben. Cyn iddo godi oddiar ei liniau yr oedd cegin fawr y dafarn, ystafell y gyfeddach, wedi ei llenwi gan y cymydogion; a bu agos iddi fyn'd yn orfoledd yn nghanol gwersyll y gelyn. Ymunodd llawer o feddwon. cyhoeddus â'r capelau, a bu amryw ohonynt yn ddefnyddiol iawn gyda'r achos, a bu iddynt barhau hyd y diwedd.
Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/71
Gwirwyd y dudalen hon