dwyreiniol o'r adeilad y dylid cynal y rhan fwyaf cysegredig o'r gwasanaeth. Eisteddai y dynion yn mhen eithaf y capel, a'r merched yn y rhan arall, a'r students gyda'u gilydd rhyngddynt. Eisteddai y plant ar y meinciau tuallan i'r seti, a'r hen wragedd trwm eu clyw yr un modd. Eisteddai y ddau flaenor,—Jacob a Griffith Jones,—wrth fwrdd bychan y tu allan i'r seti, a'r Doctoriaid Edwards a Parry yn y set agosaf atynt. Hen lanerch glyd a chynes i gadw seiat oedd hwn, yn enwedig yn y gauaf, pan y byddai Benjamin Griffiths wedi rhoddi tanllwyth go dda ar y stove fawr henafol ac anolygus ar lun cloch, a'r corn simdde yn myned allan trwy y mur. Gwelais yr hen stove yn wen eirias, a ninau y plant fyddem wedi cymeryd meddiant o'r meinciau agosaf ati yn cael Turkish bath o'r sort oreu. Derbynid arian y seiat bob nos Fercher, nid "casgl mis" fel mewn rhai lleoedd yn awr. Yr oedd y dollfa yn y pen arall i'r capel, ac eisteddai yno yn gyson i dderbyn "yr hyn a fwrid ynddo" Jacob Jones, Griffith Jones, Evan Owen, a David Evans. 'Doedd dim running accounts ar lyfrau seiat y Bala. Yr oedd yn haws i'r wraig weddw dlawd daflu hatling bob wythnos i'r drysorfa na phedair hatling bob mis.
Dechreuid y seiat fel rheol gan un o'r myfyrwyr. Gwrandewid ar y plant yn gyffredin gan un o'r ddau ddoctor. Adroddai yr holl blant gyda'u gilydd destynau y Sabboth, ac wedi hyny ddarnau o'r pregethau. Gwelais ambell dro Dr. Parry yn cael hwyl neillduol, yn gymaint felly fel y byddai yn amser terfynu cyn darfod efo'r plant. Adwaenai hwynt bob un wrth eu henwau. "Be ydech chi yn ddeud, Thomas? Triwch chwithe, John. Ydi o yn iawn, Llywelyn?" Ac os byddai y plant yn methu penderfynu y pwnc, troai at un o'r hen frodyr gan ddweyd," Be ydech chi yn feddwl, Huw Howel?" neu "Edward Rolant, fedrwch chwi roi tipyn o oleuni ar y mater?" Byddai Dr. Parry wedi taro tant yn y cywair llon wrth wrando ar y plant yn adrodd, a cheid hwyl hyd ddiwedd y seiat.