Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/76

Gwirwyd y dudalen hon

Amcan Mr. Charles yn dyfod a Mr. Saunderson i'r Bala oedd hyn. Yr oedd yn bwriadu dyfod a'r Geiriadur allan, ac yr oedd arno eisieu cael dyn o ymddiried i gymeryd gwaith mor bwysig mewn llaw. Tua yr un adeg hefyd y daeth yr argraphiad cyntaf o'r Hyfforddwr allan. Yn y flwyddyn 1806 ymbriododd Robert Saunderson â Rebecca Thomas, nith i Mr. Charles, yr hon a fu yn briod hoff ac yn wir ymgeledd gymwys iddo am dros haner can' mlynedd. Bu iddynt naw o blant, chwech o feibion a thair o ferched, un o'r rhai sydd heddyw yn fyw,—sef y foneddiges hynaws a charedig Miss Saunderson.

Mae yn debyg mai yr argraphwasg gyntaf gafodd Mr. Saunderson oedd y "Cambrian Press "—hen beiriant wedi ei wneyd o goed—a golwg ddigon anolygus a thrwsgwl arno. Gweithid ef gan ddau ddyn—un i roddi y ddalen o bapyr ar y llythyrenau a'r llall i weithio y peiriant. Cymerai amser mawr i argraphu cant o ddalenau,—un tu yn unig. Prin yr ydwyf yn meddwl y gellid argraphu cant mewn llai na dwy awr. Y mae hyn yn ymddangos bron yn anhygoel yn y dyddiau hyn o argraphu cyflym.

Nid y Geiriadur a'r Hyfforddwr yn unig a argraphwyd gan yr hen "Cambrian Press," ond miloedd lawer o bethau ereill. Llawer tro y bu'm pan yn blentyn yn difyru fy hunan yn swyddfa Mr. Saunderson, yn edrych ar yr argraphwyr yn argraphu y Geiriadur. Yr adeg yr ydwyf fi yn gofio, anaml iawn y defnyddid yr hen "Gambrian,"—yr oedd peiriant newydd wedi cymeryd ei le, un yn gweddu yn well i'r ail ran o'r ganrif, ac ynddo lawer o welliantau. Yr oedd yr hen "Gambrian" wedi ei droi i'r borfa ac wedi cael "tynu ei bedolau" fel hen geffyl ffyddlawn ar ddiwedd ei yrfa. Ni ofynid ddim gwaith ganddo, ond ambell odd job pan y byddai ei olynydd yn methu dyfod i ben. Ond pa le mae yr hen "Gambrian" heddyw tybed?[1] Gwn

  1. Hysbysir fi gan Olygydd Seren y Bala fod yr hen "Gambrian" yn ddigon diogel yn y swyddfa, ond wedi ei dynu yn ddarnau.