oddiamgylch fel mai anhawdd ydyw cael lle mwy manteisiol i godi llaw—weithfeydd. Y mae llawer o ffactris a melinau yn y cylchoedd. Dyna ffactri Cefnddwysarn. Troir olwynion y gwaith hwn gan ffrwd fechan ac iddi amrywiol enwau, sef Nant Dyfoliog, Nant Cefncoch, Nant Llwyniolyn, Nant Cefnddwysarn, yr hon a red trwy'r dolydd sydd ar fferm Cynlas Fawr (cartref Mr. Tom Ellis, A.S.), hyd Domen Gastell, lle yr ymuna â'r Meloch, yr hon sydd yn troi olwynion Melin Meloch, ac yna yn ymarllwys i afon gysegredig y Ddyfrdwy. Arferai y diweddar Ddoctor Edwards, Bala, ddyweyd mai y Rhufeiniaid oedd wedi rhoddi yr enw ar afon Meloch, a'i fod yn tarddu o'r gair velox—sef "buan. Enw digon priodol ydyw, oblegid afon ffrochwyllt yw afon Meloch. Mae ffactris a melinau hefyd yn Rhos y Gwaliau, a droir gan yr Hirnant, yn rhedeg o'r Berwyn ac yn ymarllwys i'r Ddyfrdwy ger Tan y Garth. Ond prif ffactri yr ardaloedd ydyw ffactri Ffrydan—hen ffactri William Edward yr Emynydd. Troir olwynion hon gan ffrwd fechan y Ffrydan,—" ffrwd lân" medd rhai. Y mae yn codi rywle yn nghymydogaeth y Fedw Arian, ac wedi gwneyd gwasanaeth da i'r ffactri, mae yn ymarllwys i'r afon Tryweryn o dan hen balasdy y Rhiwlas. Ar ol William Edward, cymerwyd ffactri Ffrydan gan Mr. Robert Jones,—tad Mrs. Evan Jones, Moriah, Caernarfon, ac o dan ei arolygiaeth fedrus ef daeth ffactri fechan yr hen emynydd yn ffactri fawr yn cynwys y peirianau diweddaraf, ac yn rhoddi gwaith i lawer o weithwyr. Saif y ffactri ar gyfer y Rhiwlas—a blinid llygaid yr hen foneddwr, Mr. Price, yn fawr pan y byddai Robert Jones yn rhoddi darn newydd at yr adeilad. Pan fyddai yr hen foneddwr wedi digio Mr. Jones mewn rhyw ffordd, nid oedd raid iddo ond cael llwyth o galch i dalcen y ffactri fel pe yn parotoi i adeiladu, neu wyngalchu y lle, byddai cyflawnder o ysgyfarnogod, phesants, a phetris yn cael o hyd i'r ffordd i dy perchenog ffactri Ffrydan—dyna oedd yr aberth hedd. Adeiladodd Mr. Jones weithdai eang yn
Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/78
Gwirwyd y dudalen hon