ymyl Tomen y Bala i weu gwlaneni, a chadwai lawer o wehyddion.
Ar ol Mr. Robert Jones cymerwyd y ffactri a'r gweithdai gan y boneddwr hynaws Mr. Richard Jones, Bala,—mab y diweddar Barch. Richard Jones, Bala,a brawd i Mr. Edward Jones, U.H., Plas yr Acre, a brawd hefyd i Mrs. James Williams, Llydaw. Delir y ffactri yn awr gan Mr. David Jones,—mab i'r diweddar Watkin Jones.
Yr oedd amryw o wlanenwyr a gwehyddion ereill yn y Bala. Un o'r rhai cyntaf ydwyf yn ei gofio oedd hen wr tal a golwg foneddigaidd arno,—Wiliam Llwyd. Ganwyd William yn y flwyddyn 1777, a byddai yn hoff o ddyweyd ei fod wedi ei eni yn mlwyddyn y "tri chaib." Bu fyw i oedran teg. Priododd ei ferch fab i'r diweddar Barch. Michael Roberts, Pwllheli, ac y mae dwy wyres iddo heddyw yn fyw,—Mrs. Morgan yn Rhaiadr, a Mrs. Evan Williams, y Bala. Edward Rolant hefyd oedd wehydd enwog,—hen wr syml a charedig. Rolant Hugh Pritchard oedd prif wneuthurwr peisiau stwff a defnyddiau ffedogau. Byddai yn myn'd yn fynych dros y Berwyn, dros y Figneint, ac i balasau y boneddigion i werthu ei nwyddau. Byddai y ddiweddar foneddiges o Wynnstay yn gwsmeres dda iddo. Haner can' mlynedd yn ol ymhyfrydai prif foneddigesau Cymru wisgo stwffiau o wneuthuriad Cymreig, ac am a wn i nad felly y buasent eto pe buasai y gwneuthurwyr wedi cerdded yn mlaen gyda'r oes.
XII. FFEIRIAU Y BALA.
Bu ffeiriau y Bala mewn cryn fri; ond, fel ffeiriau llawer tref a llan arall yn Nghymru, mae dyfodiad y ceffyl tân wedi gwneyd mwy o ddrwg iddynt nag o ddaioni. Prif ffeiriau y Bala oedd ffair Sadwrn Ynyd, ffair Galanmai (ffair gyflogi), ffair Wyl Beder (ffair yr ŵyn). Dyma y ffair y byddai Simon Jones o'r Lon yn gwneyd masnach fawr wrth werthu pladuriau, ar gyfer shop ei fab Simon. Ffair ganol yr Hydref oedd ffair