Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/80

Gwirwyd y dudalen hon

fawr y gwartheg, pryd y byddai y porthmyn yn prynu canoedd i fyn'd a nhw i Loegr. Wythnos bwysig oedd wythnos ffair ganol. Yr hen Green oedd Smithfield y Bala. Gan fod yr anifeiliaid yn myn'd i gerdded ffordd

bell, yr oedd yn rhaid eu pedoli, a gelwid am wasan

aeth holl ofaint yr ardaloedd wythnos y ffair i barotoi yr anifeiliaid, druain, ar eu taith hirfaith. Braint fawr oedd gan rai o blant y Bala gael eu cyflogi i fyn'd i helpu gyru y gwartheg i Lundain, Northampton, a threfydd ereill, a llawer ystori ddoniol glywem ni blant yr ysgol ar ol i'r gwroniaid dd'od yn ol o Loegr, yn mhen y mis ambell dro. Diwrnod mawr oedd hwnw pan fyddai y gyroedd yn cychwyn, ac yr oedd yn rhaid i minau gael myn'd i ddanfon y gwartheg pan ond tua chwech oed cyn belled a Llanfor. Ond y mae dyddiau y gyru gwartheg wedi myn'd heibio. Cychwyna canoedd o anifeiliaid o'r Bala yn awr tua chwech o'r gloch y prydnawn, a byddant yn marchnad fawr y merthyron (Smithfield) yn Llundain cyn chwech o'r gloch boreu dranoeth. Rhyfedd fel y mae pethau wedi newid er yr hen amser gynt gyda dyfeisiadau rhan olaf y bedwaredd ganrif ar byn.theg.

XIII. Y SEIAT BACH.

Hawdd genyf gredu fod llaweroedd o hen blant y Bala, sydd ar wasgar yn mhedwar cwr y byd, yn cofio gyda phleser am yr hen seiadau bach bum' mlynedd a deugain yn ol. "Blaenor" y seiat bach oedd David Evans, postfeistr, mab-yn-nghyfraith i'r Parch. Michael Jones y cyntaf. Dyn bychan bywiog oedd Mr. Evans, yn llawn sel gyda phob peth y cymerai afael ynddo; dyn handi gyda holl bethau perthynol i'r capel. Efe oedd arolygwr Ysgol Sul y plant am lawer o flynyddoedd—yr hon a gynhelid yn yr ystafell o dan yr hen Goleg. Nid oedd Mr. Evans yn dduweinydd mawr, ond yr oedd ganddo allu anghyffredin i ddysgu i'r plant egwyddorion sylfaenol crefydd mewn dull syml ac effeithiol trwy gyfrwng y Rhodd Mam. Nid oedd chwaith yn gerddor