gwych, ond yr oedd ei sel yn gwneyd i fyny am hyny. Arweiniai y gân bob amser ei hunan. Ni fyddai genym ond tair tôn o ddechreu i ddiwedd blwyddyn, sef"Diolch i Ti yr Hollalluog Dduw," "Mae Iesu Grist o'n hochor ni," ac yn enwedig
"'Rhyd ysgol faith Jehofa'n ddyn
Ro'i bendith Jacob i bob un,"
Byddai hwyl anghyffredin gyda'r olaf, a chanem
"Roi bendith Jac—ob"
gydag yni neillduol. Gofynai Mr. Evans ambell dro Pwy benill gawn, ni, mhlant i? Gwaeddodd un bachgen bychan un Sul,—"Bendith Jac, Mr. Evans, well gen i."
Ond y mae yn tynu at chwech o'r gloch nos Wener, ac mae yn amser myn'd i'r Seiat Bach. Erbyn cyraedd y capel mae yno dyrfa o blant wrth y drws. Agorai Benjamin Griffith ddim mynud cyn yr amser pe ba i hi yn bwrw cenllysg fel pla yr Aipht. Mae llawr y capel wedi ei glirio a meinciau wedi eu gosod yn un ysgwâr fawr. Mae bwrdd bychan yn y canol, a Beibl y Seiat arno, nid yr un Beibl a ddefnyddid yn y Seiat a'r pwlpud. Dechreuir trwy ganu tôn, ac yna, cyduna y plant i adrodd Gweddi yr Arglwydd. Treulid y cyfarfod y rhan amlaf trwy i Mr. Evans ddarllen rhyw hanesyn o'r Beibl, ac wedi hyny adrodd y stori yn ei eiriau ei hun. Byddai ganddo ddarluniau lliwiedig i ddangos prif wrthddrychau yr hanes. Byddai yn gwneyd rhanau o'r Ysgrythyr mor syml fel y gallai y plentyn lleiaf eu deall. Y mae rhai o'i ddarluniau o Abraham yn aberthu Isaac, Moses yn y cawell Joseph yn cael ei ollwng i'r pydew a'i werthu i'r Aipht, yn fyw yn ein cof heddyw, er fod yn tynu at haner cant o flynyddoedd er yr amser hono.
Testyn ymddiddan y Seiat Bach un noson oedd Samson. Ar ol darllen hanes y gŵr cryf yn cyfarfod â llew ac yn ei ladd a'i hollti, galwyd ar ddau o'r bechgyn mwyaf,—y ddau erbyn heddyw yn weinidogion