Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/82

Gwirwyd y dudalen hon

poblogaidd, ac os gwelant y llinellau hyn hwy gofiant yr amgylchiad, a dywedodd," Yma chi, John, y chi fydd y llew, a chwithe, William, fydd Samson." Mae'r llew yn myn'd i un pen o'r capel a Samson i'r pen arall. Maent yn cyfarfod â'u gilydd yn y canol. Mae'r llew yn syrthio ar ol i Samson gymeryd arno ei daro, ac y mae y lladdwr yn penlinio wrth y corpwys ac yn ceisio agor ei enau i'w hollti. "Aros dipyn," meddai'r llew, ne mi roi loc jo i mi." Y rhan nesaf o'r gwasanaeth oedd Samson yn myn'd a phyrth Gazah i ben y bryn. Mae y bechgyn mwyaf yn rhoddi y bwrdd bach o ganol y llawr ar gefn Samson. Mae yntau yn cychwyn tua'r grisiau ac yn esgyn gyda'r pyrth yn nghyfeiriad" pen y bryn sydd gyferbyn a Hebron." Cyn iddo esgyn pedwar gris dyna Benjamin Griffith yn agor y drws ac yn gafael yn nghoes Samson, dan waeddi,—"Stop, William, lle'r wyt ti myn'd a'r bwrdd, 'rhen beth gwirion." Ar hyn gwaeddai y blaenor,—" Gadwch lonydd iddo, Mr. Griffith; Samson ydi o, yn myn'd a phyrth Gazah i ben y bryn, ac os aroswch chi yma dipyn mi gewch i wel'd o yn tynu y capel yma am ein penau ni." "Gwarchod pawb," meddai Benja,"gwell i mi ei chychwyn hi." Ac felly fu. Ac felly fu. Y peth nesaf oedd rhoddi mwgwd am lygaid Samson, a'i rwymo gyda thipyn o linyn, wrth un o golofnau y capel, fel y rhwymwyd Samson gynt wrth golofnau y chwareudy. Ond ni thynodd ein Samson ni y capel am ein penau, neu ni fuaswn yma i ysgrifenu yr hanes heddyw.

Un tro yr oedd eisieu dangos i'r plant sut y bu hi ar Daniel yn ffau y llewod. Gorweddai tri neu bedwar o'r bechgyn ar lawr y capel, ac yna gorweddai Daniel a'i ben yn pwyso ar un o'r "llewod." Toc clywn lais yn gwaeddi o'r gallery,—" Daniel, Daniel, gwasanaethwr y Duw byw, a all dy Dduw di, yr hwn wyt yn ei wasanaethu yn wastad, dy gadw di rhag y llewod?" Yna clywn lais ar y llawr yn gwaeddi,—"O frenin, bydd fyw byth." Daeth y brenin Darius i lawr o'r gallery, a chododd Daniel a'r "llewod" i fyny. Yr oedd y brenin