Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/84

Gwirwyd y dudalen hon

cyfoethogi barddoniaeth y Cymry. Yn Llandderfel cawn Edward Jones, Bardd y Brenin. Gyda llaw, pa le y mae ei hen delyn yn cartrefu yn awr? Prynwyd hi am haner coron yn Manceinion gan Idris Vychan mewn rhyw ocsiwn. Bu yr hen delyn yn lletya yn fy nhy gyda'i pherchenog wythnos Eisteddfod Caernarfon 1880. Arddangoswyd hi hefyd yn Arddangosfa yr Eisteddfod. Yr oedd gan Idris feddwl y byd ohoni. Clywais ei bod yn awr yn meddiant y gwladgarwr Dr. Emrys Jones, U.H., Manchester. Ös felly, y mae yn ddigon diogel hyd y ca Mr. Herbert Lewis Amgueddfa Gymreig. Yn Llandderfel hefyd y ganwyd Huw Derfel, Derfel Meirion, ac R. J. Derfel,—awdwr "Brad y Llyfrau Gleision," "Caneuon Min y Ffordd," a llawer iawn o lyfrau ereill. Yn Llanuwchllyn y ganwyd Ap Fychan, Bardd Dochan, ac ereill. y Bala nid ydym yn cael ond ychydig heblaw yr hen Emynwr. Yr wyf yn cofio Siarl Penllyn,—mab i Robert Saunderson,—a Gwilym Treweryn,—brawd y Parch. Morris Williams, Dinbych.

Y bardd yr wyf fi yn ei gofio oreu yn y Bala ydoedd Ioan Dyfrdwy, sef John Page Daeth y bardd melus hwn i'r Bala o Loegr pan yn faban bychan, a magwyd ef gan deulu caredig Hysbysfa, rhyw ddwy filldir o'r dref. Pan tua deuddeng mlwydd oed, aeth fel egwyddor—was i siop Simon Jones. Dechreuodd John brydyddu yn ieuanc iawn, a hoffid ef yn fawr gan drigolion llengar y Bala, ac yn neillduol gan fyfyrwyr y ddau goleg. Yn y flwyddyn 1850 aeth i Eisteddfod Madog,—a chafodd yno ei urddo yn ol defod a braint beirdd Ynys Prydain, dan yr enw barddol "Ioan Dyfrdwy." Cafodd y bardd ieuanc ei drwytho mewn ysbryd eisteddfodol yn yr Eisteddfod fythgofiadwy hon. Yn hon y cafodd Gwilym Hiraethog y gadair am awdl ar "Heddwch;" Ieuan Gwynedd oedd yr ail. Yn hon hefyd yr enillodd Robyn Wyn am yr englyn beddargraph i Carnhuanawc. Enillodd Glasynys hefyd amryw wobrau yn yr un Eisteddfod.