Tudalen:Adgofion Andronicus.djvu/85

Gwirwyd y dudalen hon

Arferai Simon Jones werthu pladuriau, fel hefyd y gwnai ei dad, hen wr y Lôn, o'i flaen. Yr oedd nifer mawr o'r celfi miniog hyn mewn ystordy naill du i'r siop. Wrth gario cowled o sebon o ystordy arall, a phan yn myn'd heibio y pladuriau llithrodd traed John a briwiodd ei wegil, fel y dywed,—

Dyma'r fan lle cês i, Jac,
Ar fy ngwegil dori hac ;
Gwae oedd erioed im' wel'd yr awr
I dori mhen â'r bladur fawr.

Cario sebon, goflaid gu,
I'w le priodol 'roeddwn i;
Ac wrth im' ddisgyn hwnw i lawr,
Cês ddyrnod gan y bladur fawr.

Boreu Mehefin sarug, syn,
Yr ail ar hugain ydoedd hyn;
Un mil wyth gant a phedwar deg
A naw—y bu y chwareu breg.

Yr oedd yn bwrw eira ryw foreu, a rhedodd John yn groes i'r heol i siop Tan'rholi wneyd neges. Safai Mr. Hughes ar ben y drws, a gwenodd pan welodd y bachgen yn ysgwyd yr eira oddiar ei ddillad, a gofynai, —"Ddaru ti frifo, John bach?" Atebodd yntau,—

'Heb argau syrthiais fel burgyn—i lawr
Ar oer le bu disgyn;
Cyfodais, dwedais fel dyn
Yn sad na byddwn sydyn."

Tua'r adeg yr oedd John Page yn ngwasanaeth Simon Jones, daeth ficer newydd i eglwys Beuno Sant, Llanecil, o'r enw Mr. Pugh—uchel eglwyswr selog, un a wnaeth dipyn o son am dano, ac a dynodd yr Ymneillduwyr yn ei ben yn enbyd. Safai yn gadarn dros gael offrwm yn y claddedigaethau, a gallwn ddyweyd yn y fan yma mai John Page oedd y cyntaf i gael ei gladdu yn Llanecil