mewn claddedigaeth cyhoeddus, heb offrwm. Ffromodd y ficer yn aruthr, a gwrthodai gymeryd tâl o gwbl. Ychydig cyn marw, fel hyn y canodd Ioan Dyfrdwy i "Gyffes Offeiriad,—
Diafol uffernol o'i ffwrnais—oeddwn
::I heddyw ar falais,
Gweini y bu'm mewn gwenbais
Am y degwm ymdagais.
Fel hyn yr englynodd feddargraph i gyfaill,
O gwel, anuwiol, gwylia—arswyd yw,
Os deui di yma
Heb grefydd o'r defnydd da
Doi allan heb dy wella.
John Page a fu yn foddion i gychwyn "Cymdeithas Lenyddol Meirion." Cychwynwyd y gymdeithas flodeuog hon gan bedwar o fechgyn ieuainc yn un o gaeau y Rhiwlas, o dan hen dderwen. Y pedwar bachgen oeddynt. John Page, Ioan Pedr, Gwilym Tegid, a Roger Hughes. Y mae yr olaf yn fyw, ac eiddunaf hir oes iddo i wasanaethu ei genedl a'i Feistr Mawr. Dyma fel y canodd ein harwr i'r cyfarfod cyntaf o dan y dderwen,—
Rhyw bedwar ddengar wŷr ddaeth a'u bwriad
I buro eu harchwaeth ;
A cheisio mêl, achos maeth
O allu noddi llenyddiaeth.
Yn gwrddle, caem bren gwyrddlas, — a'r oerwynt
Weryrai o'n cwmpas;
Garw iawn oedd gerwin ias
Oer aelwyd ar gae'r Rhiwlas."
Daeth y gauaf o'r diwedd, ac yr oedd yn rhaid i'r pedwar llanc llengar gael rhywle heblaw caeau y Rhiwlas i gynal eu cyfarfod, ac yr oedd yn rhaid bod yn lled. ddistaw ar y cyntaf. Nid oedd hen Biwritaniaid