duwiol y Bala eto wedi dyfod i gydymdeimlo â dim oddiallan i hen draddodiadau Methodistaidd. Fodd bynag, cafwyd o hyd i gwt mochyn heb breswylydd ynddo, a chafwyd cowled o wellt glân, i wneyd y lle yn gyfforddus, a dyna lle y bu y pedwar llenor, yn ddirgel yn cynal eu tipyn cyfarfod gyda'r "drysau yn gauad rhag ofn" nid yr Iuddewon fel y disgyblion, ond yr hen frodyr crefyddol. Ond dyma fo yn ngeiriau un o'r pedwarawd:
Gado y man gwed'yn;—ond tro baw
Troi beirdd i'r cwt mochyn."
Yn fuan wed'yn cawsant le mewn ystabl yn ymyl y "Domen," a dyna lle y buont yn
Moli yn nghwt y mulyn
Anhawdd, ac nid hawdd gwneyd hyn."
Erbyn hyn yr oedd pethau yn dechreu gwawrio ar y llenorion, a chwanegwyd at eu nifer, a chawsant fyn'd i eistedd wrth dân mewn ty cyfaill llengarol,
"Rol hyny, i dŷ at dân—y daethom
A'n cymdeithas ddiddan ;
Ond tlawd le, at aelwyd lân
O'n tw'llwch a'r cut allan."
Cyn y Nadolig yr oedd y pedwar llenor wedi casglu nerth, a llu o gyfeillion, fel y bu raid cynal y cyfarfodydd yn un o ystafelloedd yr hen goleg,—
"Heno wele lu ohonom—dewisol
Dri dwsin yr aethom;
Llon byth gyfeillion y bôm,
Un dryswch na ddoed drosom."
Bu farw y bardd swynol pan brin yn un ar hugain oed. Claddwyd ef yn barchus gan aelodau "Cymdeithas. Lenyddol Meirion." Gosodwyd careg brydferth i