y bu eu tadau a'u teidiau yn gwneyd pererindod iddi ugeiniau o flynyddoedd yn ol. Wrth ganu yn iach, gofynaf i'r darllenydd ddyfod gyda mi am enyd. Ar ol disgyn yn ngorsaf y Bala, cyfeiriwn ein camrau ar hyd yr heol a elwir uniawn nes dyfod at y "Groes Fawr." Trown ar y chwith, awn heibio yr hen goleg a'r capel Methodistiaid,—o flaen yr hwn y saif cof—golofn Charles o'r Bala. Yn fuan cawn ein hunain ar lan "môr y Bala," sef Llyn Tegid. Dyma ni yn sefyll ar y Roe Wen, y pen dwyreiniol i'r Llyn, a gallaf sicrhau y darllenydd nad oes olygfa brydferthach yn Ewrop. Dyma i chwi ddarn o ddwfr ysblenydd! Beth fuasai llawer o drefydd mawr Lloegr yn roddi am lyn fel hwn o fewn cyrhaedd? Buasai dwsinau o agerlongau bychain arno, ac ugeiniau o bleser gychod. Ydych chwi bobl Bala yn gwneyd y goreu o'r adnoddau y mae Rhagluniaeth wedi eu rhoddi yn eich cyrhaedd? Byddai agerlestri bychain yn rhedeg i Lanuwchllyn, ac wedi hyny ddigonedd o ferlynod bychain i fyn'd ag ymwelwyr i ben Aran Benllyn neu Aran Fawddwy, yn atyniad mawr i ddyeithriaid. Y mae y Wyddfa yn tynu miloedd bob blwyddyn i ardaloedd Beddgelert, Capel Curig, a Llanberis; ond nid ydyw y Wyddfa fawr ond ychydig iawn o droedfeddi yn uwch nag Aran Fawddwy.
Wel, dyma ni yn sefyll, fel y dywedais, ar y Roe Wen. Ar y llaw dde mae bryniau y Fron Dderw, ac anedd—dai prydferth Bryn y Groes, Eryl Aran, Bron Feuno, a Bryn Tegid. O dan y Fron Feuno mae Eglwys Llanecil, gyda'i choed yŵ tewfrig, llanerch beddrodau Charles, Simon Llwyd, Enoch a John Evans, Dafydd Cadwalad, ac yn olaf, er mai nid ar un cyfrif y lleiaf, yr anwyl Ddoctor Edwards. Ar law aswy yr ymwelydd mae ffriddoedd serth Fachddeiliog. Yn union ar ben y bryn yna, wrth ben yr hen orsaf, y saif y Wenallt, hen gartref Edward Jones. Nid oes yr un myfyriwr yn fyw a fu yn y Bala o ddydd agoriad y Coleg yn 1838 hyd y dydd y bu farw yr hen bererin, nad oes ganddynt air da iddo. Yn mhellach yn mlaen mae'r Fachddeiliog, lle a