sonir am dano yn Methodistiaeth Cymru fel y lle y bu teulu anuwiol yn byw ynddo amser dechreu Methodistiaeth. Mor anuwiol oeddynt fel y byddent ar y Sabboth cyntaf o bob mis yn rhoddi cymun i'r cŵn. Rhyw ddwy filldir yn mhellach y mae hen fynwent Eglwys Llangower, a'r fynwent lle gorwedd llawer o deulu Ty Cerig, lle y ganwyd ac y magwyd tad yr aelod anrhydeddus dros Feirion. A chyda gwyleidd—dra y dymunwn ddyweyd, yno y gorwedd llwch fy anwyl dad er's dros ddeugain mlynedd. Ar gyfer Llangower y mae palasdy bychan Glanllyn, lle y bydd Syr Watcyn yn dyfod amser saethu ieir mynydd. Yn mhen draw eithaf y llyn gwelwn golofnau o fwg yn esgyn i fyny,—dyna Lanuwchllyn, cartref a man genedigol llawer o enwogion. Ar yr aswy, uwchben Llanuwchllyn, mae y ddwy Aran yn ymgodi hyd y cymylau, ac yn y pellder eithaf yn y gorllewin gwelwn Gader Idris. Dipyn i'r dde, dros fryniau y Fron, gwelwn y ddwy Arenig, o'r lle y ca pobl y Bala y dwfr grisialaidd sydd yn lloni eu calonau. Nid wyf yn gwybod am lanerch yn Nghymru lle y caiff un fwy o amrywiaeth golygfeydd nac oddiar lan Llyn Tegid.
Nid oes genym ond ychydig o amser cyn y bydd y trên yn gadael yr orsaf am Ddolgellau a Chaernarfon, ond rhaid myn'd i gael dringo i fyny i ben Tomen y Bala. Sut y daeth y bryn bychan hwn i ganol tref y Bala, y mae yn anhawdd dweyd. Y farn gyffredin ydyw mai beddrod cadfridog Rhufeinig ydyw. Mae un tebyg iddo ar ffordd Cefnddwysarn, sef Tomen Gastell, ac un arall yn ymyl yr hen orsaf, a lle y cychwyna yr afon Ddyfrdwy ar ei ffordd trwy ddyffrynoedd Edeirnion a Llangollen a Maelor i'r môr, ar draethell Fflint, ger Penarlag. Llanerch ddyddorol ydyw Tomen y Bala. Ewch yno ar amser y Sasiwn, cewch glywed y cenhadon hedd yn cyhoeddi efengyl y tangnefedd oddiar yr hen Green gysegredig. Mae golygfa ddymunol i'w chael oddiar ben y Domen. Cewch wel'd Treweryn yn ymuno mewn glân briodas â'r Ddyfrdwy.