ORIAU GYDA JOHN BRIGHT.
ER fod John Bright yn ei fedd er's rhai blynyddau bellach," y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto." Er iddo yn 1886 dori ei gysylltiad â'r adran fwyaf Radicalaidd o'r blaid Ryddfrydol, a'i Harweinydd enwog, nid oes Radical yn y deyrnas nad ydyw yn barod i anghofio pobpeth ac i dynu ei het er anrhydedd i'w goffadwriaeth pan y sonir am ei enw. Pan fu yr hen wron farw, ei hen gyfaill pur, Mr. Gladstone, oedd yr un a dalodd y warogaeth fwyaf teimladol iddo.
Yr oedd yr enw John Bright yn enw swynol i mi er pan yn blentyn bychan yn chwareu ar lan Llyn Tegid, a llawer gwaith y clywais fy nhad, pan yn ymddiddan â rhai o fyfyrwyr y Coleg oddiamgylch y tân yn nghanol mwg tybaco, yn dyfod a John Bright i'r sgwrs. Yr oedd Peel, Cobden, a Bright, yn enwau teuluaidd y pryd hyny—dyddiau diddymu "Treth yr Yd,"—
Trethydd ŷd, nid rhith o dda—dilëwch
O lwg, O gwyliwch lewygu Gwalia,
fel y canai Dewi Wyn. Ond rywfodd, enw Bright oedd wedi glynu wrthyf fi. Un achos am hyny, efallai, oedd fod un math o felusion (da da, ys dywed y plant), yn dwyn yr enw Bright Drops, a chan fod fy nhad yn gwerthu y cyfryw bethau, ac yn fy anrhegu yn lled aml â rhai ohonynt am wneyd negeseuon yn ddiymdroi, yr oedd, wrth gwrs, y "Bright Drops" a minau wedi dyfod yn gryn gyfeillion. Fel yr oedd blynyddoedd yn myn'd heibio, a minau yn myned yn hyn, ac yn dyfod yn fwy hyddysg â helyntion y byd politicaidd, yr oedd yr enw "Bright" yn dyfod yn fwy anwyl genyf. Yr oedd darllen am ei lafur diflino, ei areithiau tanbaid o blaid rhyddid gwladol a chrefyddol, a heddwch,—yn ei wneyd yn brif arwr fy nychymyg. Nid oeddwn ond bachgen lled ieuanc yn 1858, ond yr oedd yn loes lled drom i mi