ffaith wrtho y prydnawn hwnw. "Dear me," meddai yntau gyda syndod,"p'le, tybed, y bu y darn papyr yna er's deugain mlynedd? Yr wyf yn cofio yr araeth yn dda, ac y mae genyf achos cofio rhywbeth arall yn nglyn â hi; costiodd yr araeth hono i mi £500. Perswadiwyd fi gan nifer o gyfeillion i argraphu yr araeth mewn ffurf pamphledyn, a gwnaethum hyny; taenwyd ugeiniau o filoedd ar hyd a lled y wlad," ac ychwanegai gan wenu, "and I had to pay the piper."
Un prydnawn dywedodd wrthyf,"Bu'm yn rho'i tipyn o dro yn y wlad, yr oedd yn boeth iawn, ac yr oeddwn yn sychedig. Troais i mewn i fwthyn ar ochr y ffordd a gofynais am ddiod o ddwfr. Ni fedrai yr hen wraig Saesneg, ac ni fedrwn inau eich iaith brydferth chwi; sut bynag, gwaith hawdd ydyw gwneyd i rywun ddeall fod syched arnoch. Yr oedd yno hen gloc gwyneb pres, ac wrth edrych ar fy watch, gwelais fod yr hen gloc awr yn ffast. A fedrwch esbonio hyn i mi; yr oeddwn wedi gweled peth cyffelyb amryw droion mewn amaethdai Cymreig yn sir Feirionydd." "Y mae yn hen arferiad syr," meddwn inau, "yn y wlad yn Nghymru, i gael y clociau awr o flaen clociau y trefi, er mwyn cael gan y gweision a'r morwynion godi yn gynt yn y boreu." "Wel, wel, Mr. Jones," meddai yntau, gan chwerthin nes oedd yn siglo, "dydw i ddim yn gweled logic o gwbl yn hyny. Os bydd y gweision yn dechreu ar eu gwaith awr yn foreuach, y maent yn cael rhoddi i fyny awr yn gynarach hefyd, os ydynt yn myn'd wrth y cloc."
Un diwrnod daeth i aros i'r sefydliad hen foneddwr o Durham, ac ar ol tipyn o sgwrs, cefais allan ei fod ef yn aelod o bwyllgor etholiad Mr. Bright pan ymgeisiai am gynrychiolaeth y ddinas hono yn y flwyddyn 1843. Nid oedd wedi gwel'd Mr. Bright i siarad gydag ef byth ar ol hyny, a llawenychai yn fawr pan glywodd fod y gŵr mawr yn Llandudno, a bod tebygolrwydd y c'ai ei weled. Boneddwr hynod of wylaidd oedd y gŵr o Durham, lled anhebyg, mae arnaf ofn, i ysgrifenydd yr adgofion hyn. Fodd bynag,