hysbysais y ffaith i Mr. Bright, a chafodd y ddau ymgom hapus am ddigwyddiadau yr amser gynt.
Fel y gŵyr y darllenydd yr oedd Mr. Bright yn hoff o Billiards, ac yn chwareuwr o'r radd uchaf, ac nid oedd dim a roddai fwy o foddlonrwydd iddo na rhoddi curfa dda i rhyw swell a ddigwyddai gael y fraint o chwareu gydag ef. Chwareuai un waith bob prydnawn cyn gadael yr Hydro, yn fwyaf cyffredin gyda Doctor Thomas. Ar ol myn'd yn ol i Lundain, anfonodd anrheg o set o daclau chwareu fel rhôdd i'r sefydliad, ac am ddim a wn i, yno y maent eto. Dyma y tro olaf y bu Mr. Bright yn Llandudno, a gallwn ychwanegu mai dyma y tro olaf hefyd i'r ysgrifenydd, ond nid yw hyny fawr o bwys.
Terfynaf yr ychydig adgofion hyn am yr hen Grynwr enwog o Rochdale yn ngeiriau "Mr. Punch" bymtheng mlynedd yn ol,—
Stout John Bright ,
What ever you do, whether wrong or right ,
You do it with all your might.