llawer, yr hyn oedd yn rhwystr iddynt fyned ymlaen gyda'n haddysg. Ond y mae yn dda gennym weled rhai eglwysi yn cymmeryd sylw o hyn, ac yn gweithredu yn sylweddol. Felly y gwnaeth eglwys weithgar Llanfrothen y tro hwn. Gwrthrych yr anrheg hon oedd Mr. W. R. Jones (Goleufryn), sydd yn Athrofa'r Bala bellach ers dros ddwy flynedd; ac, yn ol fel yr ydym yn clywed, yn dyfod ymlaen yn rhagorol yno. Dechreuodd bregethu ym Mhorthmadog, oherwydd mai yno yr oedd yn aros ers rhai blynyddau. Ond yr oedd eglwys Llanfrothen yn teimlo mai un o'i phlant hi ydoedd; ac yr oeddynt yn teimlo mai ei dyledswydd oedd gwneuthur rhyw arwydd sylweddol o'u parch a'u hanwyldeb tuag ato yn ei ymdrech am addysg paratoadol i'r weinidogaeth. Felly penderfynwyd rhoddi cyfleusdra i bob gwr ewyllysgar ei galon i fwrw yr hyn a allent i'r drysorfa hon; ac y mae yn hyfryd gennym hysbysu fod y cynnyrch tua deg punt. Deallwn i eglwys Porthmadog (Tabernacl) wneuthur anrheg gyffelyb iddo pan oedd yn dechreu pregethu. Nid oes gennym ond dymuno ei lwyddant."
Ym Mehefin y flwyddyn hon, sef 1865, aeth i ysgol Clynog, yr hon a gedwid y pryd hynny gan yr anwyl Dewi Arfon, a bu yno am flwyddyn, sef hyd Mehefin, 1866. Wele ran o lythyr a anfonodd yn lled fuan wedi iddo fyned yno.
"Gorff 7. 1866.
"Anwyl Gyfaill,—Wele fi, ar ol maith ddistawrwydd, yn anfon gair atat, gan obeithio y bydd iddynt dy gael yn iach fel y maent yn fy ngadael innau. O'r diwedd dyma fi yng Nghlynog—dyma yr hyn a fu am gymaint o amser yn ddrychfeddwl o'r diwedd wedi ei sylweddoli mewn ffaith. Yr wyf yn hoffi y lle yn fawr, ac yn neillduol yr ysgol; er nad oes yma ryw lawer o fanteision i ddysgu, oni wna dyn feddwl am ddysgu; ond i'r dyn penderfynol y mae mae pob lle yn gyffelyb. Nid oes yma le i neb ond a fyddo yn meddwl o ddifrif am ddysgu, ac nid dysgu yn yr ysgol yn unig, ond dysgu fore a hwyr, a dyma yr adegau y mae yn bosibl dysgu mwyaf o lawer. Mae yma gryn lawer o ysgolheigion yn awr, ond y mae yn debyg yr aiff llawer o honynt i ffordd yn fuan. Yr wyf wedi bod yn ymddiddan ag amryw yn yr un amgylchiadau a thithau, a thystiolaeth pob un o honynt oedd fod yma le campus i ddechreu am ryw gyfnod, pe buasit yn meddwl myned i rywle arall wedyn. Ac felly yr wyf yn disgwyl caf dy gwmpeini yma y gauaf dyfodol, os byddwn byw.
Bydd yn rhaid i mi gael tipyn o hanes Cymanfa Liverpool gennyt yn dy lythyr nesaf.—pwy oedd y prif ddynion a glywaist, a phwy oedd yn myned oreu, pa fodd yr oeddit yn teimlo yn Liverpool, a brynaist ti lawer o lyfrau. Dyna i ti ddigon o gwestiynau erbyn y tro nesaf. Yr wyf yn disgwyl cael beirniadaeth deg a diduedd ar y traethawd. Paid ti a gadael i'th deimladau cyfeillgar â mi ddallu dim ar dy allu beirniadol. Bydd yn onest.
"Brysia anfon yn ol ataf. Cofia fi at dy dad a'th fam, a'r teulu yna i gyd. Dywed wrth fy modryb Bryngoleu am wneyd i fy ewythr ysgrifennu ataf pan gaiff amser.—Yr eiddot hyd dranc,
W. R. JONES."
Ymroddodd i ddysgu yma a gwnaeth gynnydd mawr iawn. Nid oedd yn gryf iawn mewn rhif a mesur, ac nid oedd ganddo fawr o flas arnynt. Ond yr oedd yn gryf a chyflym mewn canghennau ereill. Hoffai Glynog yn fawr, a theimlai yn hollol gartrefol yma. Cafodd le cysurus i aros, sef Cileoed, gyda John Owen, a'i fam a'i chwaer, pobl hynod garedig, fel y gŵyr ugeiniau fu yn aros yno. Dyma ei gyd-ysgolheigion, mor bell ag y cofiaf hwy—y Parchn. J. Williams, Caergybi; J. J. Roberts (Iolo Carnarvon); Dr. Joseph Roberts, New York; R. Humphreys, Bontnewydd; J. R. Williams, Rhyd Bach; J. Williams, Dwyran; D. Roberts, Abererch; J. Owen, Dublin (Criccieth); Moses Jones, Bala; R. V. Griffith, America; y diweddar R. Roberts, Morfa Nefyn; W. Roberts (Gwyddno); ac Edward Roberts, Llanfairfechan,—coffa da am dano, gyda'i droion digrif a diniwed.
Yn Gorffennaf, 1866, safodd yr arholiad am fynediad i Athrofa'r Bala, ac yr oedd yn bedwerydd ymysg pedwar ar bymtheg.
Wele ran o lythyr a anfonodd newydd iddo gael canlyniad yr arholiad.
Awst 6, 1866.
"Anwyl Gyfaill,— Yr wyf newydd gyrraedd yma trwy lawer o wlaw. Penderfynais beidio myned i Harlech oherwydd y gwlaw. Erbyn i mi fyned i fyny i'r Garth at Mr. Owen yr amser honno oddiwrthyt ti yn y Port, yr oedd wedi cael llythyr oddi wrth y Parch. G. Parry (Dr. Parry, Carno), yn cynnwys result yr examination yn ei pherthynas â mi. Yr wyf fi yn 4ydd o'r 19eg. Dyna sicrwydd am pum punt. W. J. Williams, Llanrwst, yw y cyntaf. Nis gwn pwy yw yr ail; J. Roberts, Corris (Dr. Roberts (Kassia), yn 3ydd; a'r "Disgybl arall" yn 4ydd; R. Humphreys (Bontnewydd), yn 5ed, ac nis gwn pwy oddiyno ymlaen, hyd yr 8fed, hwnnw yw J. Williams, Capel Curig (Caergybi). Dyna i ti ychydig nes y caf dy weled. Cofia fyned i Bryngoleu i ddweyd yr helynt yma."
Aeth i'r Bala ar agoriad y coleg ar ol gwyliau yr haf, a bu yno am dair blynedd. Gweithiodd yn egniol tra y bu yno, a safodd yr arholiadau blynyddol yn anrhydeddus, heb fod yn uchel iawn, nag yn isel. Cwynai yn aml newydd iddo fyned yno, fod y gwaith yn fawr iawn, a'i fod yntau yn ddiffygiol mewn dau beth oedd yn hanfodol i'w lwyddiant colegawl, sef addysg foreuol dda, a chof cryf a gafaelgar. Gwir yw na chafodd addysg foreuol dda, ac y mae yn syn ei fod yn sefyll mor uchel ac ystyried ei fanteision boreuol. Ond am ei gof, ni ddylasai gwyno, yr oedd ganddo gof gafaelgar iawn. Prawf o hynny yw ei fod yn hanesydd rhagorol, ac yn ddyn o wybodaeth eang iawn. Safodd yn gyntaf yn ei ddosbarth un flwyddyn mewn hanes. Wele