Tudalen:Adgofion am Goleufryn.djvu/3

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ran o lythyr oddiwrtho yn lled fuan wedi iddo fyned i'r Bala.

"Victoria House, Bala,
Medi 24, 1866.

"Anwyl Gyfaill, Derbyniais dy lythyr a'r llyfr ddydd Sadwrn, ar ol hir ddisgwyl am air oddiwrthyt, ne nis gallaf fynegu i ti pa mor dda oedd gennyf ei gael. Mae gair oddiwrth gyfaill i mi ar hyn a bryd, fel dyfroedd oerion i enaid sychedig.' Nid wyf wedi rhyw gynefino yma eto mor dda ag yng Nghlynog, ac y mae yn ddiameu nad allaf wneyd. Yr wyf yn credu yn benderfynol mai yr amser hwnnw a dreuliasom yng Nghlynog oedd yr amser difyrraf a welaf fi beth bynnag

"Am yr efrydiau, digon cloff yr wyf fi yn teimlo fy hunan gyda hwynt eto. Yr wyf yn teimlo fy hun ar ol yn fawr iawn gyda dysgu efrydu, dyna y peth mawr pwysig. Y mae yma eisieu cof fel uffern o'r bron. Gwaith mawr efrydiaeth y Bala yw dysgu allan, a chofio yr hyn a ddysgir allan. Ofer i neb ddod yma i feddwl rhagori, heb gael dau beth arbennig, sef bod wedi cael addysg dda yn ieuanc, ac hefyd, medda cof eang a chryf. Dyma y ddau beth wyf fi yn deimlo yn fwyaf diffygiol gyda mi. Yr oeddwn yn meddwl fod gennyf gof lled dda pan yng Nghlynog, ond yr oedd y tasgau yno fel teganau plant yn ymyl y rhai hyn. Beth feddyliet ti am roi pum tudalen o Latin Grammar, a dwy exercise yn y Latin book, a hanner pennod o History of England, i'w dysgu mewn un noswaith? A'u dysgu allan raid, neu ynte eu dysgu mor drylwyr nes gwybod beth yw eu cysylltiad oll. Y mae yr hen Ddoctor yn traddodi darlith i ni bob nos Wener am bump o'r gloch, on Ethics and Christianity, ac y maent yn gampus iawn. Rhaid i mi eu hysgrifennu bob un, yn gymaint ag y cawn ein haroli ynddynt.

Brysia anfon gair yn ol i mi. Na hidia fod heb ddim newyddion. Gwell gennyf gael llythyr yn lled aml, pe na byddai nemawr ynddo. Cofia fi at deulu Bryngoleu, a'r teulu yna, a thithau.—Dy gyfaill, "GOLEUFRYN."

Tra yn y Bala ysgrifennodd amryw erthyglau i'r Cylchgrawn. Daeth trwy hyn yn bur adnabyddus yn y Dehau yn bur gynnar ar ei fywyd. Bu am daith fechan yno yn pregethu tua'r adeg yr oedd yn gadael y coleg. Canlyniad hyn oedd iddo gael cymhelliad taer i fyned yn weinidog i Lanelli. Ond trwy ddylanwad amryw gyfeillion, a gogwyddiad ei feddwl ei hun, o bosibl, penderfynodd beidio derbyn yr alwad. Derbyniodd alwad i fugeilio eglwysi Ty Mawr, Bryn Mawr, Pen y Graig, a Rhyd Bach, Lleyn. Ymsefydlodd yno yn Hydref, 1869, a bu yno am yn agos i bedair blynedd. Yn 1873, cafodd alwad i fugeilio eglwysi Seion a Bethel, Llanrwst. Yn y flwyddyn hon hefyd y priododd â Miss Rowlands, Poplar Cottage, Pen Llwyn, Aberystwyth, boneddiges yn meddu llawer o rinweddau, a diameu iddi fod yn gymorth mawr iddo i gyflawni ei waith. Bu yn Llanrwst am saith mlynedd, yn gymeradwy iawn, ac yn ennill tir yn barhaus fel llenor a phregethwr. Tra yn aros yma ysgrifennodd amryw erthyglau i'r Traethodydd a chyhoeddiadau ereill. Yr oedd yn un o'r gweinidogion mwyaf llafurus. Gosododd nod uchel i'w fywyd, ac, er iddo gyrraedd yn uchel, mae yn bosibl iddo gael ei gymeryd ymaith cyn cyrraedd y nod hwnnw. Mae ei hanes oddiyma ymlaen yn lled hysbys, sef ei arhosiad yng Nghaergybi am bedair blynedd ar ddeg, lle yr oedd yn gymeradwy iawn, ac yn parhau i ennill tir; a'i arhosiad diweddaf yng Nghaernarfon, lle y diweddodd ei yrfa yn orfoleddus Gorff. 11, 1898, yn 58 oed.

Mae arnaf awydd gwneyd ychydig sylwadau arno fel llenor a phregethwr cyn diweddu, gan hyderu na wnaf gam ag ef nag a'r gwirionedd. Credaf y cydnabyddir ei fod yn un o lenorion blaenaf y genedl. Yr oedd cylch ei ddarlleniad yn eang anghyffredin. Darllennai y pethau goreu yn Saesneg a Chymraeg. Dywedai un gwr craff ei fod yn un o'r rhai mwyaf cyfarwydd mewn llenyddiaeth Seisnig hyd yn oed pan yn y Bala. Aeth ymlaen yn y cyfeiriad hwn ar hyd ei oes. Yr oedd ei chwaeth yn hynod bur. Yr oedd ganddo gyflawnder o iaith, a gallasai hyn fod yn elfen o berygl iddo heb wyliadwriaeth. Diau ei fod yn un o'r ysgrifenwyr Cymraeg goreu. Gwn iddo ddarllen llawer ar rai o'r clasuron Cymreig yn gynnar ar ei fywyd. Dywedai Llyfrbryf, yr hwn sydd yn awdurdod uchel ar hyn, fod ei frawddegau "mor ystwyth a gwiail helyg." O bosibl ei fod yn fwy adnabyddus fel llenor nag fel pregethwr. Bu yn hwy nag y disgwyliem yn dyfod i'r front fel pregethwr. Ond yr oedd ers blynyddau wedi dyfod yn boblogaidd, a galwad mawr am dano. Ac nid poblogrwydd israddol, ac o fyr barhad ydoedd, ond y math uchaf ohono, wedi ei ennill yn hollol deg trwy lafur cyson a diflino. Hwyrach na fyddai yn iawn ei alw yn bregethwr mawr, mewn un ystyr o'r gair. Mewn un ystyr nid oedd Mr. Spurgeon yn deilwng i'w gydmaru â John Foster, neu Robertson o Brighton; mewn ystyr arall yr oedd yn fwy. Ofer disgwyl am dalpiau mawrion o feddyliau gan Mr. Spurgeon, neu Dr. Talmage os mynner, ond yr oedd ganddynt rywbeth arall llawn mwy gwerthfawr i gymeryd gafael mewn pob math o ddyn. Gellid dweyd yr un peth am lawer o hen bregethwyr enwog Cymru. Nid deall yw yr oll o ddyn, er mor werthfawr yw y gallu yma. Mae ganddo serchiadau, mae ganddo ddychymyg, ewyllys, a chydwybod; ac y mae yn bwysig i siaradwr allu cynhyrfu y galluoedd hyn. Byddaf yn meddwl fod llawer o ffolineb yn cael ei siarad wrth son am bregethwr mawr.