Tudalen:Adgofion am Goleufryn.djvu/4

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn ol rhai, nid oes neb yn bregethwr mawr os na fydd yn galla dweyd gwirioneddau tywyll ac athronyddol, ac yn ymylu ar fod yn anealladwy. Nid wyf yn tybio fod meddwl Goleufryn o duedd athronyddol. O leiaf nid hyn oedd ei nerth mwyaf, ac ni welid llawer o hyn yn ei ysgrifeniadau na'i bregethau. Ond yr oedd cryn lawer o'r bardd ynddo, er na chyfansoddodd fawr, os dim barddoniaeth. Yr oedd ganddo ddychymyg byw iawn. Yr oedd ganddo lygaid i weled y prydferth a'i ddangos i ereill. Medrai bregethu yn ddyddorol, dawn sydd yn brin y dyddiau hyn,—nid yn ddifyr a feddyliaf. Credaf fod gwahaniaeth rhwng y ddau ddull. Mae yn bosibl dweyd man hanesion cynhyrfus a hanner gwir i ddifyrru rhyw fath o bobl. Yr oedd Goleufryn yn bell iawn oddiwrth y dosbarth yma. Yr hyn a olygaf yw gallu i osod y gwirionedd mewn dull byw, swynol, a fresh o flaen y gwrandawyr, meddu digon o illustrations, &c., i egluro a phrydferthu y gwirionedd. Ac onid dyna nod angen y pregethwr yn yr oes fasnachol a gwyddonol hon,—gallu gosod y gwirionedd mewn dull mor fyw a swynol nes peri i'r gwrandawr anghofio byd yr arian a byd gwirioneddau sychion gwyddoniaeth ac uchfeirniadaeth? Yr oedd Goleufryn yn lled gryf yn y cyfeiriad yma, nid fel y corwynt, yr hwn sydd yn ysgubo popeth o'i flaen, ond fel yr awel dyner, falmaidd, ac adfywiol—fel y gwlith tyner a ffrwythlon, fel y blodeuyn prydferth a phersawrus.

Llanfrothen.EVAN WILLIAMS.