am ei wasanaeth; a gofyna yn naturiol iddo ei hun, "Ai o'r fan yma y tarddodd yr afon nerthol a welais yn cludo teim ladau cymmydogaethau a gwledydd cyfain gyda hi, a hyny gyda'r esmwythder mwyaf dymunol, gan nerth ei llifeiriant? A ydyw yn bosibl mai oddi yma y cychwynodd yr holl lifeiriant anwrthwynebadwy, yr hwn a gynnyddwyd ar bob taith, trwy bob tref yn Nghymru, ac amryw barthau yn Lloegr, at bob cyfarfod neillduol a chyhoeddus, lle y gelwid am ei wasanaeth dylanwadol?"
"O! ïe, digon gwir:—dyma fan creadigaeth y cyfan oll" "Wel, os felly, rhaid i mi gael eistedd am fynyd yn y lle hwn, i gymmeryd golwg arno drosto i gyd! Dyma nifer mawr iawn o lyfrau! Dyma weithiau yr holl hen dduwinyddion a'r esbonwyr wedi eu cynnull i'r un lle. Dyma ford fanteisiol i osod Dr. Owen, John Howe, Jonathan Edwards, Lightfoot, Patrick, Poole, &c., wrth ymyl eu gilydd, i'w symmud y naill ar ol y llall, er cael ymddyddan â phob un o honynt, ac ymgynghori â hwy ar bob pwnc. Yr wyf yn gweled math o berthynas rhwng y lle rhyfedd hwn a'r holl gyffroadau mawrion a welais, ar amrywiol brydiau, mewn sassiynau, cyfarfodydd misol, a phregethau ar Sabbathau a nosweithiau gwaith! Ac ai yma y crëid yr holl fellt a welais yn fflamio yn nghwmwl goleu ei weinidogaeth danllyd ac ai yma y distyllwyd yr holl gawodydd graslawn a welais yn ymdywallt fel dylif ar benau cynnulleidfaoedd cyfain? Wel, nid rhyfedd ynte oedd gofyn gynt, Pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bychain?' Ni wnaeth yr athronydd erioed; ac ni wna y Cristion na'r pregethwr byth. Y mae y gwaith mwyaf wedi cael ei ddechreuad yn y symmudiad lleiaf lawer tro, ac y mae y pren mwyaf wedi cael ei dyfiant yn yr hedyn lleiaf mewn llawer man:
"'Bu'r dderwen yn fesen fach.
Eginyn heb ei gwanach;
Ond erbyn hyn, mae hono
A'i brig yn gysgod i'n bro!"
Tybiem na thalodd neb erioed fwy o sylw i'r cynghor hwnw, Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros, fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb," nag Elias.