Yma, yn ei fyfyrgell, y cawn ei weled yn dysgyblu ac yn hyfforddi ei hun ar gyfer ei orchestion cyhoeddus. Y mae llawer brwydr wedi ei hennill, yn wyneb anfanteision mawr, drwy ragoroldeb y rhagbarotoad. Y mae cynllunio yn dda yn hanfodol er cael goruchadeiladaeth dda. Dyma lle yr oedd amddiffynfa ein harwr. Ni allasai ollwng allan y fath ddylanwad cyhoeddus ag a siglai y byd, heb ymbarotoad neillduol ar gyfer y gwaith.
Yma, yr ydym yn ei gael yn ddyn "meddylgar". Dechreuodd ar ddiwyllio ei feddwl yn fore. Mynodd ddysgu ei hun pa fodd i roddi ei alluoedd meddylgar mewn ymarferiad cyn dechreu trysori ei feddwl â defnyddiau. Yn absennoldeb manteision addysg golegawl yn ei ddyddiau boreuol ymdrechodd, drwy efrydiaeth fanwl, i ddiwyllio ei feddwl a hyfforddi ei hun pa fodd i gyrhaedd gwybodaeth gyffredinol. Gosododd iddo ei hun nôd pendant, a gosododd hwnw yn ddigon uchel; a phenderfynodd, gan nad faint fyddai y llafur, y mynai ei gyrhaedd: ac ni oddefai i ddim beri iddo blygu, llaesu, gwanhau, na newid ei benderfyniad. Yn yr ymroad diysgog hwn y cawn guddiad ei gryfder. Yr oedd y diffyg o addysg fore yn ei daflu i orphwys ar ei hunangynnyrchion yn naturiol. Yr oedd ganddo ddigon o wroldeb a mawrfrydigrwydd meddwl i weithio ei ffordd yn mlaen drwy bob rhwystr a fyddai ar ei lwybr. Gwyddai na allai meddyliau ereill greu dim nad oedd yn ei gyrhaedd yntau; a bod holl egwyddorion natur mor agored ger ei fron ef ag oeddynt o'u blaen hwythau; ac felly yr ymwrolodd yn ei rymusder hwn. Dyma ragoroldeb yr hunanddibynol. Daeth ef yn feddiannol ar ei diriogaeth ei hun yn fuan; ac felly yr oedd ganddo ei fwngloddiau ei hun, heb un angen am fyned i dir neb arall; ac yr oedd yn cloddio o'r tyrau llwch y ceinion mwyaf dysglaer, ac heb un achos i dalu treth na royalty i neb arall, y rhai a wasgarai mewn cyflawnder mawr ar hyd a lled y Dywysogaeth. Prif wythen ei fwngloddiau ef oedd duwinyddiaeth. Yr oedd wedi sefydlu ei olygiadau athrawiaethol yn dra chadarn; ac yr oedd yn dra eiddigus drostynt, ac yn bur anhawdd ei symmud oddi wrth yr hen derfyn. Y mae yn wir na chyfyngodd ef ei ymchwiliadau i'r wyddor dduwinyddol