hollti fel costrelau newyddion. Dywedaf fel y caffwyf fy anadl, agoraf fy ngwefusau, ac atebaf. Ni dderbyniaf yn awr wyneb neb, ni wenieithiaf wrth ddyn; canys ni fedraf wenieithio; pe gwnawn, buan y cymmerai fy Ngwneuthurwr fi ymaith. O uniondeb fy nghalon y bydd fy ngeiriau, a'm gwefusau a adroddant wybodaeth bur."
Yr oedd ymbarotoad Elias at ei lafur cyhoeddus mor gyflawn a phe buasai yn credu y byddai ei holl lwyddiant yn y weinidogaeth yn troi yn gwbl ar ei ymbarotoad; ac eto, ar yr un pryd, yr oedd ei ymddiried a'i hyder mewn amdiffyn oddi uchod mor llwyr a phe na buasai yn ystyried ei ragbarotoad yn ddim. Yr oedd, wrth hyn, yn rhoddi ei le priodol ei hun i bob teimlad. Nid oedd byth yn foddlawn i ddyrchafu un ddyledswydd ar draul esgeuluso y llall.
Yr oedd ei adnabyddiaeth a'i ymarferiad âg ymadroddion y Beibl, yn dangos mai "y gwirionedd megys y mae yn yr Iesu" oedd cartref ei fyfyrdod a'i astudiaeth. Yr oedd ei gof fel mynegair i'r Ysgrythyrau, a byddai ymadroddion nerthol geiriau gwirionedd a sobrwydd yn gydblethedig â holl frawddegau ei bregethau. Yr oedd yn dra hoff o eglurhadau ysgrythyrol yn ei holl anerchiadau cyhoeddus. Os adroddai hanesion, os cyfeiriai at egwyddorion naturiaethol, os cynnygiai gymhariaeth, neu os tynai addysg, byddai adnod o'r Beibl yn sicr o fod fel maen clo ganddo, ac fel rhan hanfodol o'r cyfanwaith i gyd; ac yr oedd hyny yn profi yn ddigon eglur fod ei "ewyllys yn nghyfraith yr Arglwydd," a'i fod "yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos." Os oedd wyneb Moses gynt yn dysgleirio pan y byddai yn dychwelyd o'r mynydd wedi bod yn nghymdeithas ân Duw, yn nirgelwch y Goruchaf, ac yn nghysgod yr Hollalluog, felly yn amlwg y byddai Elias, pan y byddai yn myned o'i fyfyrgell i'r areithfa. A pha bregethwr, ystyr iol o bwysigrwydd a chyfrifoldeb ei swydd, na ddywedai o eigion calon: "Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymmeradwy ger dy fron, O Arglwydd! fy nghraig a'm prynwr."