Dafydd Rhys, Llanfynydd, i fod yn mysg y nifer eleni?" Dyma fel y byddai yr ymddyddan yn mhob tŷ a thwlc; a byddai yr ymofyniad am enwogion y Gogledd i raddau yr un modd, nes y byddai rhyw bryder cyffredinol wedi ei greu yn mhob man drwy yr holl ardaloedd. Yr oedd y sasiwn yn canolbwynt at yr hwn yr oedd mil o linellau yn cyfeirio o bob aelwyd o'r bron. Byddai y gymmydogaeth lle y byddai i gael ei chynnal yn cael ei gwisgo â dillad newydd i gyd. Byddai golchi a glanhau, lliwio a phrydferthu, yn mhob annedd. Yr oedd pob palas yn cael ei adgyweirio, ac yr oedd pob bwthyn yn cael ei wyngalchu. Yr oedd y wlad yn wen fel eira yn Salmon. Yr oedd llwch deuddeng mis yn cael ei symmud oddi ar bob astell. Yr oedd pob ystafell yn cael ei thrwsio a'i gloewi i groesawu y dyeithriaid. Byddai pob man yn cael ei wneyd yn ddiarebol o lân. Yr oedd yma ddangosiad ymarferol fod "glanweithdra yn agos berthynas â duwioldeb." Ar dydd hwn telid math o warogaeth genedlaethol i grefydd. Yr oedd raid i bob dosbarth gael myned i'r gymmanfa. Yr oedd hyd yn oed y rhai nad elent i gapel nac eglwys ddydd yn y flwyddyn, yn mynu codi allan y pryd hwn. Yr oedd raid i bob oed gael eu gwisg newydd erbyn y "seiat fawr." Gwelid nifer o foneddigion yn eu cerbydau yn gwychu y cynnulliad hwn—wedi dyfod yno rywfodd rhwng cywreingarwch a defod. Fel hyn y gwelid pob gradd a dosbarth wedi cyfarfod, o leiaf unwaith yn y flwyddyu, ar yr un maes; a diau y bu hyn yn foddion i godi crefydd i sylw y wlad, ac i effeithio ar gymmeriad y genedl.
Y mae wythnos y gymmanfa wedi dyfod. Y mae cyhoeddiadau y gwŷr dyeithr wedi eu dosbarthu er y Sabbath trwy bob tŷ addoliad, dros ugain milltir o amgylch "pabell y cyfarfod." Y sasiwn sydd ar dafod pawb; y gymmanfa sydd fel swyn yn mreuddwydion y nos; ac megys yn ymwthio o flaen myfyrdod pob gradd. Y mae yr hyfrydwch a'r adeiladaeth a ddysgwylir yn cael ei fwynhau mewn gobeithion yn mlaen llaw. Y mae bore y dydd cyntaf wedi