Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/111

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyddai iddo ef orwedd ar ei gefn yn yr ardd yn yr haf, wrth orphwys, i fyfyrio ar ei bregeth, a gweled y wennol yn gwneyd ei nyth dan fargod y tô, mynai ryw eglurhâd ar ryw bwnc neu gilydd yn ei bregeth oddi wrth hyny. Yr oedd ef gartref rywfodd bob amser gyda phob peth. Yr oedd fel pe buasai yn rhwym o fynu chwilio i mewn am reswm dros bob gwirionedd ac athrawiaeth a gynnygient eu hunain i'w sylw. Nid oedd yn cymmeryd dim yn ganiataol heb ei chwilio. Mynai bwyso a barnu pob peth a ddygid ger bron. O blegid hyn yr oedd ei gymhariaethau mor naturiol, ac mor darawiadol. Yr oedd ei ddoniau areithyddol yn hynod o ystwyth, a'i dafod yn llithrig fel pin ysgrifenydd buan. Gallai dynu maesolygfa yn ei holl linellau a'i gysgodion, ei bellder a'i agosrwydd, ac oddi waered i fyny o'r ddaiar i'r nen, gyda phwyntil perffaith. Yr oedd ei ddarluniad o Abraham yn teithio yn ngwlad yr addewid, yn ei bregeth ar y "wlad well," yn ddigon i beri i'r gwrandawyr anghofio mai gwrandaw ar un yn son am le yr oeddynt, a thybied eu bod yn cael eu harwain mewn gwirionedd wrth eu llaw, gam a cham trwy bob dyffryn a chwm, a dôl, heibio i bob coedwig, a heibio i ael pob bryn, a thrwy bob nant, a thros bob afon, a chyda phob gardd, a thrwy ymylon pob tref oedd yn Nghanaan i gyd! Yr oedd yn gallu gweithio mor naturiol at deimladau y bobl, yn y bregeth hono, nes yr oedd yr holl dorf yn foddfa o ddagrau, a hyny yn hollol ddiarwybod iddynt eu hunain. Yr oedd ei lancet yn archolli hyd y byw; ond yr oedd y min mor deneu fel nad allai neb ei deimlo; ac yr oedd pawb fel pe buasent heb wybod dim am hyny nes iddynt weled y gwaed. Yr oedd hyn oll cyn iddynt feddwl na dysgwyl dim am y fath beth; ac yr oedd y cwbl yn cael ei wneyd heb un math o arwydd egni nac ymdrech ynddo ef ei hun, ond gyd a'r esmwythder mwyaf diymgais. Yr oedd fel pe buasai yn deall anianyddiaeth y meddwl dynol yn drwyadl. Dywedai yn fynych fod "natur yn sicr o daro natur!" Yr oedd wedi gwneyd ei weinidogaeth yn brif wrthddrych ei astudiaeth, nes yr oedd wedi dyfod o'r braidd yn sicr o'i nôd bob tro yr esgynai i'r areithfa. Yn ei ddyddiau boreuaf, pan y dygwyddai droi yn fethiant, canfyddai hyny yn fuan, ac