rhag iddo beidio cofnodi dim a fwriadai a fyddai wedi ei grybwyll gan ereill, a rhag i ddim a fyddai ereill wedi ei adrodd fod yn rhwystr iddo ddwyn i mewn bethau a ystyriai yn wir angenrheidiol; fel y byddai yr adgofion hyn mor ffyddlawn i natur ag y byddai modd. Gadawyd digon o amser i bawb ereill ysgrifenu a chyhoeddi ar y testyn, cyn dwyn yr erthyglau hyn ger bron y cyhoedd drwy y wasg.
Y mae pob dyn mawr o'r bron a gyfododd i sylw yn Nghymru fel pregethwr, yn cael nifer o ddynwaredwyr. Yr oedd gan Mr. Elias epaod yn ddirifedi. Ond ni chynnygiwyd erioed ar ddynwared neb yn fwy aflwyddiannus na dynwared Elias. Yr oedd ganddo ef, fel o'r bron bob dyn mawr arall, ei agweddiadau od a'i ddulliau dyeithrol; ac y mae yn hynod i'w sylwi mai pethau gwaelaf dynion mawr a amcenir eu hefelychu bob amser. Byddai yn ddigrif iawn gweled ambell wenhudyn yn esgyn yr areithfa yn ngŵn a llodrau Elias. Byddai dynion synwyrol mewn byd mawr i allu peidio gwenu yn dosturiol wrth ei weled—â'i goes mor fain a'i droed mor fyr, nes y byddai yn colli y botasau wrth ddringo grisiau y pulpud; ac erbyn dyfod i'r lan, byddai golwg ryfedd arno, â gwasgod mor laes nes y byddai yn cyrhaedd at ben ei lin; a chôt mor fawr, fel y byddid yn methu peidio a dychymygu am fantell ar yr hoel. Ond y mae eithrad o'r bron i bob rheol gyffredinol. Darfu iddo yntau unwaith, o'r braidd, gael ei daflu dros y bwrdd gan ei ddynwaredwr. Yr oedd cymmanfaoedd i fod mewn man neillduol yn y Deheudir; un gan y Methodistiaid, ac un gan enwad arall. Yr oedd Elias yn cychwyn ar ei daith yno, ac yn pregethu y noswaith gyntaf ar ol cychwyn o gartref, mewn tref nid yn neppell; ac yr oedd i gyrhaedd i'r gymmanfa yn mhen tair wythnos. Ei destyn oedd, "Heb gyfattal y pen, o'r hwn y mae yr holl gorff, trwy y cymmalau a'r cyssylltiadau, yn derbyn lluniaeth, ac wedi ei gydgyssylltu yn cynnyddu gan gynnydd Duw." Yr oedd pregethwr o enwad arall yno yn gwrandaw; yr hwn, er na chymmerai nemawr o drafferth i fyfyrio ei hun, a allai gofio pregeth un arall wedi ei gwrandaw unwaith bob sill ac iot; ac yr oedd fel traddodwr yn un o'r rhai ffraethaf a mwyaf doniol yn Nghymru. Gallai adrodd pregeth dyn arall mor fanwl,