eu siomi yn eu dysgwyliad wrth eu darllen. Diau na byddant yn cael eu siomi ynddynt gymmaint fel cyfansoddiadau, ond am ysbryd y peth byw oedd ynddynt tra y byddai efe yn eu traddodi! Yr oedd y gloch ymadrodd ar ol ynddynt. "Rhyfedd! (meddai pob dyn o'r bron) nid wyf fi yn eu clywed yr un fath a phan y byddai efe ei hun yn eu llefaru, Nid ydwyf yn clywed dim mwy ynddynt na rhyw bregethau da ereill sydd genyf mewn llyfr yn rhywle yn y tŷ yma! Dyma bregeth a glywais i ef ei hun yn ei thraddodi, yn y fan a'r fan, yr amser a'r amser; yr oedd hi yn disgyn y pryd hwnw fel tân byw bob gair ar deimladau y bobl; ond nid wyf fi yn clywed dim yn y byd ynddi wrth ei darllen yn y llyfr yma!" Heb wybod fawr am yr anmhosiblrwydd o roddi bywyd mewn papyr ac inc. Nid oes modd cael gwell esboniad ar hyn, nag mewn gair a ddywedodd Elias ei hun ar achos arbenig yn Llundain. Yr oedd gweinidog o Gymru unwaith i draddodi y bregeth genadol dros Gymdeithas Genadol Llundain yn nghapel Surrey. Yr oedd cryn ofal a phryder arno yn nghylch y gorchwyl pwysig; a gofynodd y gweinidog i'r hen batriarch Matthew Wilks, yn mhresennoldeb Mr. Elias, pa un a fyddai oreu iddo, ai darllen ei bregeth, ai ynte ei thraddodi o'i feddwl? Dywedodd Mr. Wilks, "Efallai mai ei darllen fyddai oreu i chwi; ond pa fodd bynag, gadewch i ni gael cymmaint o dân Cymraeg ynddi ag y byddo modd; onid e Mr. Elias?" meddai efe. I'r hyn yr atebodd Elias yn union, "O, nid oes modd cario tân mewn papyr, Syr." Yn awr, dyna yr atebiad goreu i'r ymofyniad, pa ham na byddai mwy o Elias ei hun yn ei bregethau argraffedig. "Nid oes modd cario tân mewn papyr."
Yr oedd Mr. Elias bob amser yn cyfansoddi ei bregethau gyda gofal mawr. Nid esgynai ef byth i'r areithfa i draddodi rhywbeth a ddeuai gyntaf i'w feddwl; er ei fod mor alluog i gyfodi i fyny i siarad ar unrhyw bwnc yn ddifyfyr a neb yn ei oes. Yr oedd agwedd orphenol i'w ganfod ar ei holl bregethau drwyddynt, pa un bynag a olygwn ai y dygiad i mewn, ai defnydd y sylwadau, ai y casgliad oddi wrthynt. Nid oedd ef byth yn ymddangos fel un heb adnabod ei lwybr. Dywedai Williams o'r Wern, fod pregethwr heb ragymadrodd