y mae a wnelom yma. Gadewir y diffygion i ofal y rhai hoff o ymborthi ar weddillion. Nid oes dim a wnelom yma ond âg adrodd ffeithiau, ac adgoffa pethau a gymmerasant le yn weithredol a gwirioneddol, yn yr hyn oedd werthfawr fel addysgiadau i ni, a hyny ar lan y bedd.
Y mae yn amlwg ei fod wedi ymbarotoi ar gyfer y cyfnewidiad oedd ger llaw, fel y gwelir wrth ei eiriau penderfynol ef ei hun,—"Yr ydwyf wedi rhoddi fy nghorff a'm henaid yn ngofal y Gwaredwr mawr er ys deng mlynedd a deugain, ac yno y maent eto!" Adwaenai Paul "ddyn yn Nghrist er ys pedair blynedd ar ddeg;" ond adwaenai Elias un ynddo er ys hanner canrif!
Yr oedd yn berffaith dawel yn ei gystudd, ac yn gallu ymollwng yn gwbl i ewyllys ei Arglwydd. Y mae ei dystiolaeth ef ei hun yn dra boddhaol ar hyn; canys dywedai, "Yr wyf unwaith eto yn cael eich cyfarch o ystafell cystudd, lle y mae fy Nhad doeth a da yn gweled yn oreu i mi fod. Y mae efe yn dda iawn wrthyf; yr wyf yn cael llawer awr o gymdeithas ag ef! 'Da i mi gael fy nghystuddio.' Ni wn eto beth a wna yr Arglwydd o honof; pa un ai fy symmud o'r winllan, ai fy adferu dros ychydig, i geisio gwneyd rhywbeth eto dros ei enw yn y byd. Gwn nad oes arno fy eisieu, a gwn fod yn hawdd iddo fy adferu. Yr Arglwydd yw efe, gwnaed a fyddo da yn ei olwg.'"
Yr oedd ei ostyngeiddrwydd yn dra phrydferth yn yr adeg ddifrifol hon. Yr oedd pob arwyddion ymaddfedu ynddo. Yr oedd yn ymwybodol o'i sefyllfa ddylanwadol fel gweinidog yn mysg ei frodyr; eto cadwyd ef yn gydostyngedig â'r rhai iselradd, o blegid yr oedd wedi ymdrwsio oddi fewn â gostyngeiddrwydd. Yr oedd yn ystyriol o'i fod wedi gwneyd ei oreu i adael y fath argraff ar y byd ag y gwneid coffa am dano wedi ei ymadawiad; ond ni chollodd mo'i olwg unwaith ar yr hwn yr ystyriai ei hun yn ddyledus iddo am bob dawn; ac i'r hwn y dymunai ddychwelyd yr holl anrhydedd am yr hyn y bu yn offerynol i'w gyflawnu. Yn yr olwg ar y llinellau bywgraffiadol a ysgrifenasai iddo ei hun, terfynai gyda'r ymadroddion gwylaidd canlynol:—" Ysgrifenais y pethau hyn, heb wybod