Iosiah hyd heddyw, a hwy a'i gwnaethant yn ddefod yn Israel; ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn y galarnadau." Peth boreuol gan hyny, feddyliem, oedd cofnodi bywgraffiadau ysgrifenu a dadganu marwnadau ar ol dynion o ragoriaethau cyhoeddus:—"A gwŷr bucheddol a ddygasant Stephan i'w gladdu, ac a wnaethant alar mawr am dano ef." Nid oedd modd attal dagrau wrth gasglu y darnau cnawd yn nghyd, i'w hamdoi ar ol y llabyddiad, er gwneyd angladd parchus iddynt yn Maes y gwaed, yr hwn a brynwyd, y mae yn debyg, yn gladdfa dyeithriaid. Nid allent lai nag anrhydeddu yr hwn a anrhydeddid gan eu Duw fel y merthyr cyntaf dros yr efengyl; ac i dystio eu cred a'u gobaith yn adgyfodiad y meirw a'r bywyd tragwyddol. Felly, y mae eu hesampl hwy yn amddiffyniad i'r teimladau a amlygwyd yn Mon, wrth hebrwng corff Elias i fynwent. Llan-faes brwydr Egbert. Peth anarferol oedd gweled cynnulliad o ddeng mil o drigolion yr ynys, gydag ymylon Arfon, yn dyfod i ddangos eu teyrnged olaf o barch i gofion un o wir enwogrwydd mewn duwioldeb a defnyddioldeb yn y weinidogaeth; ac hefyd, fel cyfle manteisiol i uno mewn addoliad mewn gweddïau a chynghorion, a hyny ar achlysur o ddyddordeb cyffredinol. Yr oedd y gynnulleidfa, gan mwyaf, yn rhai cynnefin â'r myfyrdodau sydd yn briodol i lethr glŷn cysgod angeu, y rhai a allent ddyddanu eu gilydd â'r ymadroddion hyny. Ni all y cyfryw ag sydd yn ddyeithr i'r syniadau hyn oddef yr olwg ar "y galarwyr yn myned o bob tŷ yn yr heol," gydag un math o gysur. Rhoddodd un o freninoedd Ffrainc orchymyn na enwid mo "angeu" byth yn ei glywedigaeth! Mynodd Catherine, ymherodres Rwssia, osod cyfraith i attal angladdau gael eu harwain trwy yr heol oedd gyferbyn a'i phalas, a bod i bob claddedigaeth gael ei gyflawnu yn y nos; rhag i hyny ddwyn y meddwl am farw i'w myfyrdod, ac felly aflonyddu ei theimladau. Ond nid oedd dim arswyd teimladau felly gan y dorf oedd yn claddu Elias. Yr oeddynt yn hytrach yn eu croesawu. Y mae rhywrai trwy ofn marolaeth dros eu holl fywyd dan gaethiwed. Y mae yr angladd, y bedd, yr arch, a'r amdo, yn annyoddefol iddynt. Y mae hyny
Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/126
Prawfddarllenwyd y dudalen hon