mynyd i bump, ac y mae y lluaws yn dechreu cyrchu tua'r maes. Y mae yr esgynlawr yn barod, ac y mae y Beibl a'r llyfr hymnau ar y ddesc. Y mae trwst olwynion mân gertynau fel ar y palmant. Y mae y meirch yn dylifo i mewu i'r dref. Y mae y prif-ffyrdd yn dduon gan y fforddolion ar eu traed. Er maint ydyw y gwau sydd rhyngddynt, nid oes yna un ddamwain heddyw! Y mae y dorf yn prysur lanw y maes o amgylch yr areithfa. Dyma luaws yn dyfod hyd y ffordd dan ganu, fel tyrfa yn cadw gŵyl. Y mae nifer ar ol nifer yn eu dilyn; y mae sain caniadau o'r brif-ffordd arall yn adsain i'w mawl hwy. Y mae y cynnulliad yn cynnyddu o hyd. Y mae yn syndod meddwl o ba le y daethant. Y mae yna deimladau hynod wedi eu moldio yn barod at yr addoliad-rhwng gweddïau, dagrau, caniadau, ac amenau, ar hyd y ffordd. Dyna y pulpud o'r diwedd yn llawn. Onid oes golwg anwyl ar y rhes o werthfawr feibion Lefi yn addurno y lle. Dynion ydynt, ar y cyfan o gorffolaeth uchel ac iachus, gyda wynebau gwrol, gwridgochtebyg i breswylwyr ochrau y mynyddoedd, gydag eithriad o ambell fyfyriwr llwyd a llym ei wedd. A! pwy ydyw hwn acw sydd i'w weled yn dal yn eu canol, â gwallt cryf tywyll, ac arleisiau uchel, ac yn tremio drwy y bobl, gan edrych ol a blaen, i'r naill ochr a'r llall, dros y dorf? Ust! yn awr, cewch wybod tua diwedd yr oedfa! Gosteg! dyna y gymmanfa fawr, y dysgwylid cymmaint am dani yn dechreu, a'r pennill cyntaf yn cael ei roddi allan i'w ganu— "
Ymddyrcha, Dduw, y nef uwchlaw,
Oddi yno daw d' arwyddion;
A bydded dy ogoniant ar
Y ddaiar a'i thrigolion."
Y mae yr hen dad penllwyd, crynedig yna, yn ddigon cynnefin â'r ffordd i'r nef mewn gweddi. Y mae y pregethwr ieuanc gobeithiol yn terfynu ei anerchiad gyda llawer iawn o briodoldeb. Dyna ryw wron cadarn yn y ffydd yn codi, ac yn llefaru felly, fel y mae y lluaws yn teimlo i'r byw,