Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/130

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

uwch ben y bedd, "y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd "— yr oeddynt yn coffa am oes arall, pan yr oedd agwedd arall ar ansawdd y byd, a phan yr oedd y gelyn yn

——edliw fod Elias ddull addas gyda Llwyd,
I'r Werddon wedi myned a rhoi pregethau'n gaeth,
I Gymry oedd yno'n sawdwyr, a'u troi'n arswydus waeth;"

ond erbyn hyn, eu dau wedi cyrhaedd y fro lle y paid yr annuwiolion â'u cyffro, ac y gorphwys y rhai lluddedig, ar ol eu diwrnod gwaith, ac na chlywant lais y gorthrymwr mwy! Buont mor unedig â'u gilydd drwy eu hoes a phe na buasai ond un enaid rhwng y ddau gorff. Dilynasant gymdeithas eu gilydd mor glymedig ag y bu Dafydd ac Ionathan erioed yn eu horiau anwylaf. Gan hyny, ni buasai yn deg eu gwasgaru hwythau yn angeu, na'u gwahanu yn y bedd. Yr oeddynt yn wastadol yn cydgyfarfod i ymgynghori gydag achos eu Harglwydd, drwy ystod taith eu pererindod ar y ddaiar, ac nid oedd yn ormod iddynt gael dyfod i'r un fan i gydorphwys i aros eu cyfnewid, fel y gallant gyfodi o'r un bedd, i fyned megys, fraich yn mraich, i gyfarfod eu Prynwr ar gymylau y nef. "Hunwch frodyr," meddai ambell un, "yn dawel yn eich beddrod!"—"Na chyffröed traed mo'ch annedd dawel chwi!" meddai un arall." Angylion y lle fyddo yn gwylio eich llwch!" meddai y trydydd.—"Os caiff ein hysbrydoedd gyfarfod eich eneidiau pur yn yr anneddle lonydd," meddai y lleill, "ni ryfeddem na ddeuem ar adenydd y wawr i dalu ymweliad â'r lle hwn eto!"

Y mae y lluaws yn awr yn cefnu; ac ambell un yn methu peidio troi golwg yn ol, fel i ffarwelio â'r fan, gyda'r olwg olaf am byth ar y fangre. Mae yna ambell bren ywen werdd, gauadfrig, yn codi ei phen i'r golwg, hyd ochrau y fynwent, ac megys yn siarad â'r oesau a fu; a than ysgydwad yr awel megys yn amneidio ar yr oesau a ddel! Y mae y cyfan yn codi hiraeth yn mynwes amryw am yr hen amser a'r hen gyfeillachau a fu; ac y mae eu dychymyg yn methu ymadael â'r lle, heb ofyn unwaith eto, Ah! pa fodd y mae y tafod, a fu fel pin yr ysgrifenydd buan mewn llawer cymmanfa cyn hyn, mor ddystaw heddyw? Y mae y llygad craffus a fu yn tremio trwy wynebau at galonau tyrfaoedd, erbyn heddyw