ymaith bechodau y byd." Y mae yn codi ei lais seingar; nid i waedd afreolaidd, ond i hwyl naturiol. Y mae ei wedd, ei iaith, ei lais, ei nwyd, ei dymmer, ei ystum, a'i deimlad, yn cwbl gydweddu i'w gilydd, ac yn ymasio yn naturiol yn ei weinidogaeth. Y mae y naill yn cefnogi y llall rywfodd. Y mae ambell nôd gerddgar yn ei nabl fwyn yn codi yn uwch na'r lleill, ac yn disgyn i un isel, leddf, brón ar unwaith; ac felly yn tynu allan yr adseiniau mwyaf swyngar oddi ar fynwes yr hen foel fawr ger llaw. Nid yw y tinc mwyn, meddal, sydd i'w glywed weithiau yn ei lais, yn ddim amgen nag un o'r plyf sydd yn adenydd ei enaid dyrchafedig. Y mae yn codi ei lais yn uwch o nodyn eto. Y mae yn cael ei gymmeryd i fyny yn gwbl oll, ben a chalon, gorff ac enaid, gan y neges fawr sydd yn ei destyn. Nid yw ef yn gweled dim ger ei fron yn awr ond eneidiau sydd i fyw byth, yn ymyl y perygl o gael eu colli yn dragwyddol. Ai tybed nad yw y boneddigion a'r rhianod yna, sydd yn eu sidanau gwych yn rhodio o amgylch gydag ymylon y dorf yn eu cerbydau yn croesi dim ar ei feddwl? Nac ydynt, ddim yn y gradd lleiaf! Y mae ef yn sefyll ar dir mor uchel yn awr, fel nad yw yn cael golwg ar Victoria yn ddim amgen na'r llances weini; nac ar y llances weini yn ddim is na Victoria! Nid yw yn gallu edrych ar yr ynad awdurdodol ond yr un fath a'r amaethwr gwledig! Onid tywysog ar lu yr Arglwydd ydyw efe yn awr? Edrychwch mor wrol y mae yn ymddangos â'i gleddyf yn ei law. Nid yw yn prisio wyneb un dyn byw! Nid yw ef yn edrych ar y dorf ond fel pechaduriaid; y mae yn canfod pawb yn yr un sefyllfa, ac yn anerch pawb wrth yr un enw. Y mae yn tremio ar y llinell sydd yn terfynu rhwng y ddau fyd, rhwng amser a thragwyddoldeb, a rhwng nefoedd ac uffern. Y mae efe yn ymherawdwr yn myd yr ysbrydoedd heddyw; y mae efe yn cyfeirio ei deyrnwialen at eneidiau anfarwol yn awr; y mae yn pwyntio ei gleddyf dau finiog at y galon ar hyn o bryd. Y mae anystyriaeth yn methu edrych yn ei wyneb;
Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/16
Prawfddarllenwyd y dudalen hon