y mae anghrediniaeth yn ffoi o'i ŵydd; y mae balchder ysbryd yn gwywo yn ei bresennoldeb; y mae difaterwch yn plygu dan nerth ei lais; ac y mae creigiau caledwch y galon yn cael eu hollti a'u dattod oddi wrth eu gilydd gan dreiddgarwch mellt ei weinidogaeth. A soniwch chwi byth mwy am hyawdledd Demosthenes wedi clywed peth fel hyn? A grybwyllwch chwi air byth am ddoniau Cicero wedi gweled peth fel hyn? A! clywch; dyna ef yn symmud i orsaf arall yn ei bregeth yn awr; y mae y gydwybod euog ddeffröedig yn cael esmwythâd anwyl dan olew yr eneiniad sydd yn ei genadwri. Y mae yna berarogl hyfryd yn codi o'r thuser aur acw sydd yn ei law! Wel, wel, y mae ef er ys meityn yn feistr y gynnulleidfa; ond y mae yn awr yn disgyn ei hun i ganol y bobl, ac yn cydgymmysgu ei ddagrau, ei ocheneidiau, ei deimladau, a'i weddïau, a'i ganiadau, â'r eiddynt hwy! A! dyna yr addoliad drosodd, a'r dorf fawr yn chwalu, nes y maent yn mron llethu eu gilydd yn y pyrth sydd yn arwain o'r maes i'r brif-ffordd, a phawb yn cyrchu gyntaf gallont am damaid o luniaeth sydd wedi ei ddarparu iddynt yn rhad gan drigolion caredig y dref! Ow, ow! clywch mewn difrif, dyna rywun yn crïo ffair ocsiwn ar ganol yr heol, fel pe byddai o bwrpas am oeri teimladau y bobl! Y mae yn resyn meddwl fod yn rhaid i'r bydolion gael ymwthio i le fel hyn! Gadewch iddo: nid oes yma neb yn cymmeryd arno ei glywed!
Y mae hi yn ddau o'r gloch. Y mae y prif-ffyrdd yn dduon gan y teitholion yn parhau i ddyfod i'r dref o bob ffordd, a'r cyfan yn cyfeirio tua'r maes. Dyma y cynnulliad lluosocaf eto. Y mae yma ddeng mil o bobl ar y maes! ïe, y bedwaredd ran o boblogaeth y wlad! Y mae yma rywun yn cynnrychioli pob aelwyd sydd yn nherfynau y sir, os nid amrai o siroedd ereill hefyd! Y mae y rhan arweiniol o'r addoliad drosodd. Y mae yna ŵr ieuanc enwog yn dechreu tynu yn y bwa. Nid yw mewn hwyl neillduol; ond yn absennoldeb hwyl, y mae ganddo rwyfau da. Y mae y lli a'r