gwynt yn ei erbyn, ac y mae y cwch weithiau fel pe byddai yn cael ei guro yn ol; ond gadewch i hyny fod, y mae ganddo ddigon o nerth a phenderfyniad i ystemio y gorllif i gyd, ac y mae yn cael y làn yn deg. Dyna y bregeth gyntaf drosodd. Yn awr, dacw ddyn gwridgoch, glandeg, tal, dengar, yn codi i fyny i hysbysu cyhoeddiadau y gwŷr dyeithr drwy wahanol gapeli y wlad o hyn hyd y Sabbath. Y mae pryder mawr yn cael ei greu yn awr. "Ust! gwrandewch, pwy sydd yn dyfod atom ni," ydyw y sibrwd dystaw gan bawb. Y mae yna bwynteli plwm a dyddiaduron fil allan ar hyn o bryd. Dyna y cyfwng rhwng y ddwy bregeth drosodd, a'r pregethwr olaf yn codi at y ddesc. Y mae yr holl bobl oedd yn lled flinedig, ac wedi gorweddian ar y maes, yn dechreu codi, a phawb yn dechreu sypio at eu gilydd; a dyna awel dyner yn chwibanu uwch ben ac yn rhedeg dros y bobl; ac y mae poethder mwyaf tanbaid y dydd wedi cilio, canys y mae hi yn hanner awr wedi tri y prydnawn. Y mae dysgwyliad mawr am y bregeth hon. Y mae y llefarwr yn dechreu cael gafael ar ei bwnc ac ar y bobl hefyd. Y mae yn ymadroddi yn rhwydd, ac yn ymresymu yn bert; ac y mae ganddo gyflawnder o arabedd at ei alwad. Y mae yn dyrchafu ei lais fel udgorn arian y cyssegr, ac y mae seiniau swyngar hwnw yn dechreu toddi calonau y bobl. Y mae pob rheswm, teimlad, darfelydd, a nwyd, a fedd, yn cael eu galw allan yn awr. Y mae ei ddrychfeddyliau a'i seiniau cerddgar yn perffaith gydweddu â'u gilydd. Y mae barddoniaeth ei enaid a cherddoriaeth ei lais, wedi eu cyfrodeddu â'u gilydd, er cario effaith ar deimladau y dorf. Y mae yn cyflwyno ei holl ysbryd i ysbrydoedd ei wrandawyr. Y mae ei ymadroddion yn treiddio trwy y deall at y galon. Y mae cwmwl ei weinidogaeth yn llawn trydan. A! dyna y cwmwl mawr yn hollti, a'r gawod yn disgyn! Dyna rwyg drwy deimladau y dorf. Y mae yna gannoedd ar unwaith yn gwaeddi allan am eu bywyd! "Dy wylwyr a ddyrchafant lef, a chyd â'r llef y cydganant!" Dyna hi yn orfoledd
Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/18
Prawfddarllenwyd y dudalen hon