cyffredinol drwy y gynnulleidfa luosog i gyd, ac y mae y pregethwr yn tori i fyny ar unwaith yn nghanol caniadau y dyrfa fawr! Y mae yr oedfa drosodd. Y mae y dorf yn ymwasgaru. Y mae degau yn canu, yn bloeddio gwaredigaeth, ac yn moliannu Duw ar hyd yr heol, wrth fyned i lawr i'r dref. Y mae y pregethwyr dyeithr yn cyfeirio tua maes yr ysgrubliaid i chwilio am eu meirch, eu ffrwyni, a'u cyfrwyau, ac yn prysuro at eu cyhoeddiadau i'r wlad erbyn saith o'r gloch;—un i Horeb, a'r llall i Hermon; un i Bethlehem, a'r llall i Salem; un i Seion, a'r llall i Gosen; a'r cannoedd yn eu dilyn—pawb tua thref!
Yn awr, dyna chwi wedi cael un o'r golygfeydd sydd yn hynodi cenedl y Cymry yn eu cymmeriad crefyddol!
Y mae yr oedfa hwyrol yn dechreu am chwech. Nid oes yma ddim cymmaint o hynodrwydd o ran nifer; ond y mae y dyddordeb yn cael ei gynnal i fyny yn barhaus. Yn Môn, bob amser, byddai ELIAS yn pregethu y bregeth olaf yn y sasiwn; ac y mae amryw yn tystio iddo gael rhai o droion mwyaf llewyrchus ei oes yn y rhai hyny. Byddai efe yn brif ysgogydd y cyfarfodydd hyn drwyddynt draw; ac y mae rhyw adwy wedi ei gadael yn agored ar ei ol, sydd heb ei llanw hyd yr awr hon.
Wedi crybwyll yr ychydig sylwadau uchod, fel diheurad am droi allan o lwybr cyffredin rhagymadrodd i'r adgofion, nid oes genym ond gair byr i'w fynegu am y gwaith.
Y mae y gymmeradwyaeth a gafodd yr erthyglau a gyhoeddwyd gan y wlad yn gyffredinol, yn gwneyd pob esgusawd am eu cyhoeddi yn afreidiol. Derbyniodd yr awdwr nodiadau arnynt oddi wrth nifer o weinidogion o wahanol enwadau, y rhai a roddodd iddo bob boddlonrwydd am y priodoldeb o'u cyhoeddi. Y mae rhai o honynt mewn ymadroddion rhy gryfion i wyldeb ganiatäu eu mynegu. Annoga rhai ar fod iddynt gael eu cyhoeddi yn y Saesoneg, fel y gallo ein cymmydogion gael mantais i weled, i raddau,