drosodd y mae yntau yn dechreu edrych ar y Beibl; ond cyn darllen ei destyn, y mae yn cymmeryd golwg esmwyth, hawddgar, ar y dorf drachefn i fyny ac i lawr, gan ymaflyd yn ymyl ei gôt, a symmud ei ffunan llogell unwaith neu ddwy. Y mae yr olwg arno yn hynod o ddengar: y mae yn dal o gorffolaeth, heb fod yn gnodiog; y mae ffordd hir o'i law hyd i'w ysgwydd; y mae yn perthyn i Gaswallon fraich hir, feddyliem. Y mae pob ystum ar ei law, ei fys, ei wefus, a'i ael, yn swyngar. Y mae ei ben yn urddasol, er nad yw ei wedd yn brydferth. Y mae ei arleisiau yn uchel, ei ruddiau yn ddyfnion. Y mae ei wallt tywyll yn disgyn yn ol ei dyfiant, heb ei droi un ffordd; eto y mae yn ddigon tewglud i beidio ymddangos fel bargod tô gwellt. Ond ei lygaid —ei lygaid: y mae ei enaid mawr yn ymwthio iddynt yn fflam. Y mae lleferydd byw yn mhob gewyn a chyhyr yn ei wyneb. Y mae natur wedi ei dori allan, yn mhob modd manteisiol, i fod yn areithiwr. Y mae ei wisg hefyd yn mhob dull yn gweddu iddo—yn syml, lân, drwsiadus, drefnus—ei gôt Crynwr; ei wasgod ddwbl; ei ffunan wen, gàn, blaun, lefn. Y mae yn tynu ei napcyn gwyn o'i logell, ac yn ei dynu dros ei wyneb: y mae yn ei osod ar y ddesg dan ochr y Beibl. Y mae yn tynu ei anadl i'w ffroenau yn gyflym ddwywaith neu dair. Wel, wel, ni waeth hyny na chwaneg, y mae ei ymddangosiad wedi sychu ymaith hanner y teimladau a gyffrowyd dan y bregeth gyntaf; y mae gobaith i ni am bregeth eto. Onid yw dylanwad fel hyn ar dymmerau dynion yn beth rhyfedd iawn? Pa fodd y gellir rhoddi cyfrif am y dirgelwch? Y mae yn darllen ei destyn yn eglur a dirodres,—"Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phrophwydasom yn dy enw di? oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di? Ac yna yr addefaf wrthynt, Nis adnabûm chwi erioed; ewch ymaith oddi wrthyf, chwi weithredwyr anwiredd." Ah! fel y mae darlleniad y testyn yn taflu llen o arddwysedd dros wyneb y dorf! Y mae ei lais yn gafael yn mhob teimlad, ac yn myned yn fwy soniarus bob brawddeg; nid o ran dim pereidddra neillduol sydd ynddo, ond o ran priodoldeb y darlleniad, addasrwydd yr aceniad, a threiddgarwch ei wedd. Y
Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/23
Prawfddarllenwyd y dudalen hon