bregeth gyntaf. Y mae yn dychwelyd at y dull ymresymiadol, fel pe byddai yn gweled rhyw un heb ei lwyr argyhoeddi. Y mae yn uchder nerth ei weinidogaeth yn awr. Y mae yn son am ffrwyth pechod, fel un wedi profi ei chwerwder ei hunan. Y mae yn son am edifeirwch, fel un wedi bod ei hun yn gwaedu dan ei archollion. Y mae yn darlunio uffern fel un a fuasai wedi bod ei hun yn chwilio ei holl ogofâau â lanterni. Y mae yn arwain y bobl i ymyl dibyn gwlad y gwae, nes y mae llawer fel pe byddai arnynt ofn syrthio dros ymyl y gallery yn y capel. Y mae rywbeth tebyg i anobaith fel pe byddai wedi ei argraffu ar ruddiau pawb. Rhyw deimlad rhyfedd fyddai yn y dorf pe gollyngid pawb adref ar hyn! Buasai yn well i'r bobl gael myned ymaith ar ol y bregeth gyntaf. Pa fodd bynag, y mae yn myned rhagddo, ac y mae yn gollwng ei saethau tanllyd mor aml ac mor effeithiol, nes y mae teimladau ei wrandawyr yn cael eu dwysbigo, a'u calonau yn gwaedu ar lawr! Y mae ysbryd y peth byw yn gweithio drwy yr holl gynnulleidfa fawr: y mae rhyw ferw drwy bob man; ac o'r braidd na thybiem fod y dorf fel pe byddai yn dychymygu fod y tyle yn symmud dan eu traed. Y mae pawb eto yn fud; nid oes yma ddim eto o'r teimladau uchel a brofwyd dan y bregeth gyntaf, er fod yma rywbeth—rywbeth—y peth—beth y galwn ni ef?—sydd yn fwy effeithiol fil o weithiau na dim a glywsom o'r blaen. Y mae ei iaith yn dda ac yn ddillyn; ond y mae yn cameirio yn aml iawn "canlnyniad, ternas," &c.; ond ni waeth beth a fo, y mae rhyw swyn hyd yn oed yn ei gamsilliadaeth. Y mae wynebau y bobl wedi colli eu hagwedd gyffredin—y mae pob llinyn yn eu gwedd fel pe byddai wedi ymollwng. Beth mewn gwirionedd ydyw peth fel hyn? O'r braidd na feddyliem, wrth syllu ar wyneb gwelw llawer un, ei fod yn dywedyd yn ddirgel yn ei fynwes, "Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddeu." Ah! dyna ef yn troi yn awr oddi wrth yr anghredadyn at y gwrthgiliwr. Y mae ei eiriau yn disgyn fel tân ar benau y bobl. Y mae rhyw hanner crac yn ei lais yn awr, ac y mae bron yn tori i wylo! Beth ddaw o'r dorf bellach? Y mae rhai wedi eu cadwyno—rhai wedi eu synu―rhai wedi eu syfrdanu—ac ereill wedi ymoll-
Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/25
Prawfddarllenwyd y dudalen hon